Gradd Sylfaen (FdA) Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser, Llawn amser
- Hyd:
Llawn amser: 2 flynedd; Rhan-amser: 4 blynedd. Hefyd ar gael ar sail fodiwlaidd.
Llawn amser dydd Llun a dydd Mercher, 9am - 5pm
Rhan-amser: Dydd Llun neu ddydd Mercher, 9am - 5pm
- Cod UCAS:NNHT
Gradd Sylfaen (FdA) Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau
Graddau (Addysg Uwch)
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Llawn Amser
Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.
Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.
Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r Radd Sylfaen hon mewn Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau wedi'i chynllunio i roi'r sgiliau rheoli busnes hanfodol a'r arbenigedd ymarferol y mae cyflogwyr blaenllaw yn y diwydiannau lletygarwch, twristiaeth a digwyddiadau byd-eang yn chwilio amdanynt.
Mae natur ymdrochol y cwrs yn sicrhau eich bod yn datblygu'r theori a'r wybodaeth ymarferol sydd eu hangen i ragori yn y sectorau deinamig hyn.
Wedi'n lleoli yng ngogledd Cymru, cyrchfan dwristiaid sy’n enwog yn fyd-eang, mae ein lleoliad yn darparu amgylchedd dysgu unigryw. Gydag amrywiaeth o sefydliadau lletygarwch, twristiaeth a digwyddiadau yn agos, bydd gennych ddigonedd o gyfleoedd i ymgysylltu, ymweld â distyllfeydd, ymweld ag atyniadau amrywiol a phrofiad gwaith posibl. Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i'r rhai hynny sydd â diddordeb dechrau gweithio yn y sector, neu sydd am wella eu cyfleoedd am ddyrchafiad a gwaith rheoli yn y sector.
Mae'r modiwlau'n cynnwys:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
- Deall Gweithrediadau Bwyd a Diod
- Rheoli Refeniw a Chostau
- Rheolaeth Ariannol ym maes Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau
- Y Grefft o Ddylanwadu: Marchnata ac Ymddygiad Cwsmeriaid
- Ymgysylltu â Rhanddeiliaid drwy Arloesedd
- Cyrchfan Ymhobman: Cyflwyniad i Dwristiaeth Fyd-eang
- Sgiliau Ymchwilio ac Astudio: Datgloi Llwyddiant Academaidd
- Proffil Proffesiynol a Datblygiad Personol
- Gwin a Chwrw ym maes Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau
- Deall Arwyddocâd Digwyddiadau
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
- Technegau Ymchwil Strategol
- Creu a Chynnig Profiadau
- Naws am Le
- Gwella Perfformiad Sefydliadau trwy Dechnoleg Gwybodaeth
- Rheoli Adnoddau Dynol
- Arbenigedd sy'n Canolbwyntio ar y Cwsmer
- Profiadau Unigryw: Twristiaeth a Digwyddiadau ar gyfer Diddordebau Penodol
- Rheoli Adnoddau
- Rheoli Twristiaeth yn Gyfrifol
Gofynion mynediad
Gofynion Academaidd
- 48 pwynt UCAS o gymwysterau L3 addas (Safon Uwch, Tystysgrif Genedlaethol NTEC, AVCE, GNVQ, Bagloriaeth Cymru neu'r Fagloriaeth Ryngwladol, NVQ L3).
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Saesneg neu gymhwyster sgiliau allweddol/hanfodol cyfwerth
Gofynion Ieithyddol
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf.
- IELTS 5.5 neu uwch
Cymwysterau Eraill:
Ystyrir amrywiaeth eang o gymwysterau proffesiynol a phrofiadau perthnasol eraill hefyd.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir uchod, byddem yn dal i'ch annog i wneud cais am y cwrs y mae gennych chi ddiddordeb ynddo, gan y bydd llawer o'n cyrsiau'n ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Sesiynau sgiliau ymarferol
- Cyflwyniadau
- Gweithdai
- Gwaith grŵp
- Siaradwyr gwadd
- Ymweliadau â diwydiant
- Seminarau
- Tasgau dan arweiniad
- Tiwtorialau
Gwersi wyneb yn wyneb a ddefnyddir yn bennaf gyda rhai cyfleoedd i gael gwersi ar-lein os yw hynny'n addas.
Amserlen
- Llawn amser am 2 flynedd, 2 ddiwrnod yr wythnos (9am - 5pm fel arfer)
- Rhan-amser am 4 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (9am - 5pm fel arfer)
Ar Lefel 4 a Lefel 5 y rhaglen FdA rhaid i bob myfyriwr gwblhau o leiaf 75 awr o brofiad gwaith.
Bydd y lleoliadau gwaith yn rhan o asesiad cyffredinol y radd sylfaen a bydd angen cwblhau'r 75 awr yn llawn ynghyd â chwblhau 'Llawlyfr Lleoliad Gwaith' er mwyn cyflawni'r cymhwyster.
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Costau ychwanegol
Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:
- Deunyddiau i astudio'n annibynnol (gliniadur, deunyddiau astudio ac ati)
- Dillad addas ar gyfer mynd ar leoliad gwaith
- Costau'n gysylltiedig ag ymweliadau allanol fel teithio a chynhaliaeth
- Cymwysterau ychwanegol yn gysylltiedig â lletygarwch, twristiaeth neu ddigwyddiadau
- Teithio a chynhaliaeth ar gyfer lleoliadau gwaith
Modiwlau
Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau i'w gweld yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol am y Campws / Gwybodaeth am y Cwrs.'
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Cyswllt:
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Claire Jones (Rhaglen Arweinydd): jones37c@gllm.ac.uk
Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Ar y cwrs cewch eich asesu drwy ddulliau amrywiol, er enghraifft drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Traethodau
- Adroddiadau
- Arholiadau
- Portffolio
- Arddangos sgiliau ymarferol
- Astudiaethau achos
- Asesiadau i'w gwneud mewn amser penodol
- Cyflwyniadau
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Dilyniant i astudiaethau pellach:
- Dilyniant uniongyrchol i'r cwrs L6 BA (Anrh) Rheoli ym maes Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau (atodol)
- Astudiaethau pellach gyda darparwyr Addysg Uwch eraill yn y Deyrnas Unedig.
- Cwrs TAR
- Ar ôl cwblhau'r cwrs lefel 6 mae'n bosibl mynd ymlaen i gwrs gradd meistr perthnasol.
Cyfleoedd o ran Gyrfa a Dilyniant:
- Swyddi rheoli ym maes Lletygarwch / Twristiaeth a Digwyddiadau mewn amrywiaeth o sefydliadau yn y diwydiant.
- Cyfleoedd i ymuno â chynlluniau hyfforddi i raddedigion.
- Cyfleoedd yn gysylltiedig ag agweddau amrywiol ar y diwydiant Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Cyd-destun digwyddiadau (10 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl ymchwil hwn, byddwch yn trafod yn feirniadol y rhesymau pam fod cymdeithasau'n creu digwyddiadau, a pha effaith maent yn ei gael ar y gymuned sy'n eu cynnal, yr amgylchedd, yr economi, ac ar ddiwylliant a thwristiaeth. Bydd hyn yn fodd i chi feithrin y wybodaeth a'r gallu i adnabod a ffurfio cysyniadau cryf a dichonadwy am ddigwyddiadau, a'u defnyddio fel sail i gynllunio effeithiol. (Portffolio gwaith cwrs 60%, Astudiaeth Achos 40%).
Creu Digwyddiadau (10 credyd, craidd)
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddangos eu bod yn gallu gwneud defnydd priodol o fethodoleg i hybu creadigrwydd, ac arloesedd, ac i ddatblygu cynnyrch newydd. Byddwch yn trafod entrepreneuriaeth, brandio, contractio gwaith i'w wneud yn allanol, a deall cyfarwyddiadau rhanddeiliaid. Drwy hyn byddwch yn mynd ymlaen i ddysgu am y prosesau sydd ynghlwm â chreu cysyniadau, eu cynllunio a'u gwerthu. Byddwch yn cael profiad ymarferol o gynllunio a rheoli digwyddiad drwy werthu eich cysyniad i randdeiliad mewn gweithgaredd chwarae rhan. Gall hyn gynnwys defnyddio CAD (dylunio drwy gymorth cyfrifiadur), posteri infographic ac ati i gyflwyno eich cysyniad ac i ddangos sut y gall amgylchedd y digwyddiad gael ei ffurfio i ddylanwadu ar ymateb emosiynol y sawl fydd yn bresennol. (Chwarae rôl 100%)
Cynhyrchu Digwyddiad (20 credyd, craidd)
Mae'r modiwl hwn yn ymwneud â rheoli gweithredol a rheoli prosiect, ac yn cyfuno hyn â'r broses o greu a datblygu digwyddiad. Mae'n ehangu'ch dealltwriaeth o'r heriau diddorol a chyffrous sy'n rhan o weithio gyda rhanddeiliaid, ac o'r sgiliau rheoli prosiectau sy'n hanfodol i'r diwydiant digwyddiadau. Caiff materion fel cynaliadwyedd, globaleiddio a moeseg hefyd eu dadansoddi. Yn y pen draw, y nod yw sefydlu'r sgiliau trosglwyddadwy yn ymwneud â rheoli a chynllunio prosiectau sydd eu hangen i weithio yn y sector. (Aseiniadau Ysgrifenedig 25%, Cyfrif Myfyriol 25%, Portffolio Prosiect 50%)
Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1: Cynllunio Gyrfa (20 credyd, craidd)
Mae'r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i gyflawni nifer o dasgau'n ymwneud â chyflogadwyedd er mwyn cynyddu eu cyfle o gael swydd. I wneud hyn mae myfyrwyr yn adfyfyrio ar eu dysgu a'u datblygiad eu hunain, a thrwy'r broses hon maent yn meithrin gwell dealltwriaeth o'u diddordebau, eu sgiliau a'u priodoleddau eu hunain yng nghyd-destun gyrfaoedd a phrofiadau gwaith ac adnabod beth sy'n bwysig iddynt o ran gwneud penderfyniadau gyrfaol effeithiol. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o'r hyn sydd angen iddynt ei wneud i lwyddo yn y farchnad swyddi, ac i adnabod yr adnoddau, y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i fod yn gyflogadwy. (CV a Llythyr Cais 10%, Cynllun Gweithredu 10%, Diwrnod Gwerthuso 30%, Adfyfyrio 50%)
Cyllid Busnes (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r cysyniadau a'r egwyddorion sy'n hanfodol i gyfrifyddu a chyllid. Bydd yn canolbwyntio ar ddod i ddeall cysyniadau ac egwyddorion allweddol cyfrifyddu ariannol er mwyn gallu dehongli datganiadau ariannol. Bydd y pwyslais ar hanfodion cyfrifyddu ariannol a dechreuir trwy gyflwyno myfyrwyr i gysyniadau a thermau cyfrifyddu a chyllid. Yna symudir ymlaen at dechnegau cyfrifyddu a rheoli cyllid a bydd hyn yn cynnwys cynhyrchu datganiadau ariannol fel datganiadau incwm, mantolenni, a datganiadau a rhagolygon llif arian. Caiff y wybodaeth ei defnyddio i alluogi'r myfyrwyr i ddehongli gwybodaeth ariannol a gwella ansawdd penderfyniadau trwy ddefnyddio cymarebau ariannol. (Arholiad Llyfr Agored 50%, Adroddiad (Unigol) 50%)
Rheoli Gwybodaeth (10 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn, ceir cyflwyniad i'r amrywiol fathau o wybodaeth a geir ym myd busnes a phwysigrwydd Technoleg Gwybodaeth i arferion busnes modern. Edrychir hefyd ar bwrpas systemau gwybodaeth mewn busnesau. Bydd yn hybu dealltwriaeth a'r systemau amrywiol sy'n hanfodol er mwyn gallu gwneud defnydd llawn ac effeithiol o dechnoleg ac yn edrych ar y nifer cynyddol o ddulliau cyfathrebu sydd ar gael i gyflymu'r defnydd o wybodaeth. Yn ogystal, bydd yn dangos dulliau ystadegol effeithiol o reoli gwybodaeth a gwneud penderfyniadau mewn sefydliadau. (Ymchwiliad 50%, Cyflwyniad 50%)
Marchnata ac Arloesi (20 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn, cyflwynir y myfyrwyr i egwyddorion marchnata a phwysigrwydd cynllunio marchnata. Bydd y myfyrwyr yn edrych ar sut i ddefnyddio'r cymysgedd marchnata i sicrhau llwyddiant. Byddant yn dysgu am y damcaniaethau a'r modelau sy'n sail i farchnata ac yn eu cymhwyso i sefyllfaoedd go iawn. (Aseiniad Ysgrifenedig 40%, Adroddiad (Grŵp) 40%, Cyflwyniad 20%)
Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd, craidd)
Bydd y modiwl hwn yn meithrin sgiliau astudio'r myfyrwyr gan eu galluogi i feddwl yn feirniadol ac i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig sy'n academaidd gadarn. Bydd yn galluogi'r myfyrwyr i feithrin sgiliau ymchwilio, ysgrifennu ac adfyfyrio. (Aseiniad Ysgrifenedig 100%)
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Rheolaeth Adnoddau Dynol (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddeall sut mae adnoddau dynol ac adnoddau yn cael eu rheoli a'u datblygu mewn sefydliad. Bydd yn trafod swyddogaethau a gweithrediadau allweddol Rheoli ym Maes Adnoddau Dynol yn ogystal â sut maent yn cyfrannu at gyflawni nodau sefydliadol. Bydd myfyrwyr yn edrych ar brosesau recriwtio, dewis a meithrin doniau a sgiliau mewn sefydliad, a'r cysylltiad rhwng perfformio a gwobrwyo mewn cyd-destun cyfoes. (Aseiniadau Ysgrifenedig 100%)
Rheoli Cynadleddau a Digwyddiadau (20 credyd, gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn meithrin dealltwriaeth y myfyrwyr o'r amrywiaeth, y protocolau a'r gweithrediadau sy'n sylfaenol i'r sector rheoli cynadleddau a digwyddiadau. Datblygir a defnyddir sgiliau fydd yn ystyried y cynllunio cyfannol a'r ffactorau gweithrediadol sydd eu hangen i ddiwallu anghenion cwsmeriaid. (Adroddiad 40%, Astudiaeth Achos 60%)
Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 2: Sgiliau Arwain (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o'r amrywiol bynciau sydd eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth fodern, ac mae'n cyfateb i unedau'r CMI (Chartered Management Institute). Mae hyn yn cynnwys cyflwyno a chyfleu data i gefnogi penderfyniadau, dulliau o reoli unigolion, perfformiad timau a sut i wella perfformiad. (Aseiniadau ysgrifenedig 100%)
Dulliau Ymchwilio (20 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i adfyfyrio a deall natur y cynnig ymchwil, amcanion yr ymchwil, y dulliau a'r trefnau a ddefnyddir i wneud yr ymchwil a sut i wneud y defnydd gorau o feddalwedd ystadegol. (Ymchwiliad 50%, Cyflwyniad 50%)
Theorïau ynghylch Digwyddiadau (10 credyd, gorfodol)
Nid yn unig mae newid yn debygol, mae'n anorfod. Mae'r modiwl hwn yn adolygu'n feirniadol y theorïau, y cysyniadau a'r arferion sy'n berthnasol i'r math o faterion sy'n wynebu rheolwyr digwyddiadau heddiw yn yr amgylchedd gwaith. Trwy adnabod ac archwilio'r materion hyn bydd y myfyrwyr yn dod i wybod am dueddiadau ac yn meithrin dealltwriaeth feirniadol o sut mae'r rhain yn effeithio ar strategaeth a phenderfyniadau sefydliadau. Bydd y myfyrwyr yn trafod themâu penodol yn ymwneud â theorïau ac yn edrych yn ôl ar reoli enw da a gwersi a ddysgwyd ac yn ystyried sut y gellir trefnu cysylltiadau cyhoeddus yn y dyfodol. (Adroddiad 100%)
Y Digwyddiad Byw (30 credyd, craidd)
Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i roi cyfle ymarferol i'r myfyrwyr ddefnyddio'r holl sgiliau a gwybodaeth maent wedi'i feithrin ar y cwrs i drefnu digwyddiad. Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu'n ymarferol i Gwmni Trefnu Digwyddiadau ac yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau rheoli prosiectau a chynnal digwyddiadau drwy gynllunio, dylunio, gweithredu a gwerthuso'r digwyddiad. (Portffolio 45%, Cynnig Grŵp 20%, Dyddiadur Adfyfyriol 35%)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)
Lefel:
4+5
Maes rhaglen:
- Business and Management
Sefydliad dyfarnu: Bangor University
Dwyieithog:
n/aBusiness and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Sefydliad dyfarnu
