Gradd Sylfaen (FdA) Arweinyddiaeth ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol (yn amodol ar ddilysiad)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Full-time and Part-time
  • Hyd:

    Llawn amser: 2 flynedd - 2 ddiwrnod yr wythnos, dydd Mawrth a dydd Mercher o fis Medi 2024, fel arfer rhwng 9am-4pm

    Rhan-amser: 3 blynedd - 1 diwrnod yr wythnos, yn nodweddiadol rhwng 9am-4pm

    DYDDIAD DECHRAU: 10 Medi 2024

Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdA) Arweinyddiaeth ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol (yn amodol ar ddilysiad)

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Cychwyn ar daith drawsnewidiol gyda’n gradd newydd, sy’n unigryw i ranbarth Gogledd Cymru sy’n cynnwys agweddau cyfoes sy’n hollbwysig i’r arweinydd a’r rheolwr modern. Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddilysu a'i ddyfarnu gan Brifysgol Bangor felly gallwch fod yn sicr o radd o ansawdd uchel.

Mae’r radd hon yn berthnasol i Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol a byddai’n addas i’r rheini sy’n gweithio mewn rolau arwain proffesiynol mewn sectorau amrywiol, neu’n anelu atynt, gan gynnwys rolau cymorth, trydydd sector, iechyd a gofal cymdeithasol, a pholisi neu i’r rheini sy’n ceisio gwella eu gwybodaeth. neu sgiliau.

Wedi’i alinio ag anghenion diwydiant lleol, bydd y cwrs hwn yn rhoi sgiliau uwch i chi er mwyn cyflymu gyrfa lwyddiannus yn rhai o’r sectorau y mae’r galw mwyaf amdanynt yng Ngogledd Cymru.

Mae'r cwrs hwn yn pontio'r bwlch rhwng cymwysterau proffesiynol seiliedig ar waith a rhagoriaeth academaidd.

Mae ugain y cant o'r dysgu ar y cwrs hwn yn ddysgu seiliedig ar waith, sy'n cynnwys lleoliad gwaith/amgylchedd gwaith real o 75 awr o leiaf (ar L4 a L5 ar gyfer y radd sylfaen). Mae'r coleg yn cynnig cyngor a chymorth ynghylch lleoliadau. Yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am sicrhau lleoliad. Bydd llawer o ymgeiswyr yn gallu cymhwyso'r hyn y maent wedi'i ddysgu yn eu gweithle heb fod angen lleoliad ychwanegol.

Mae'r modiwlau'n cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)**:

  • Hanfodion Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (20 credyd)
  • Cydweithio a Chyfathrebu Rhyngbroffesiynol (20 credyd)
  • Cyflwyniad i Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd)
  • Sgiliau Arwain a Rheoli (20 credyd)***
  • Rheolaeth Weithredol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (20 credyd)***
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus (20 credyd)
  • Cynaliadwyedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (10 credyd)

** I’r rhai sydd wedi astudio ac wedi ennill cymhwyster City and Guilds Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer, gallwn gydnabod dysgu blaenorol Lefel 4 i gyd fel eich bod yn dechrau ar y rhaglen ar Lefel 5.

***I’r rhai sydd wedi astudio ac wedi ennill Lefel 4 mewn Paratoi i Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (City and Guilds), gallwn gydnabod dysgu blaenorol mewn Rheolaeth Weithredol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Sgiliau Arwain a Rheoli, gan adael 80 credyd yn weddill i’w hastudio i ennill Lefel 4.

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Ymchwil a Dysgu Uwch (20 credyd)
  • Darparu Rhagoriaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (20 credyd)
  • Arwain y Gweithlu i Ddarparu Gofal o Ansawdd (20 credyd)
  • Datblygiad Proffesiynol ac Arweinyddiaeth 2 (20 credyd)
  • Hyrwyddo Gwytnwch a Lles (20 credyd)
  • Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd (20 credyd)

Gwybodaeth Ychwanegol

Ceir gwybodaeth fanylach am y Modiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth am y Campws'.

Gofynion mynediad

Mae'r radd hon yn cynnig meini prawf mynediad hyblyg heb fod angen cymwysterau academaidd.

  • Mae cynigion yn seiliedig ar dariff, 64 pwynt UCAS

⁠NEU

  • Diploma Lefel 3 mewn pwnc cydnaws

Neu

  • Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau cymwysterau a gydnabyddir gan y sector yng Nghymru (L4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol) RPL dau fodiwl ar lefel 4: Sgiliau Arwain a Rheoli (20 credyd) a Rheolaeth Weithredol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (20 credyd)

Ar gyfer unigolion nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod:
Bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried o blith y rhai sy'n gweithio yn y sector Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r trydydd sector, gydag o leiaf blwyddyn o brofiad (mae angen cyfweliad i drafod gallu academaidd i gael mynediad i raglen lefel 4).

Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL) ⁠

⁠Gofynion Academaidd i gael mynediad i raglen ar Lefel 5:
Bydd mynediad i lefel 5 yn cael ei ystyried yn unigol yn unol â pholisi trosglwyddo credydau GLlM, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a amlinellir yn y polisi). Neu drwy gefnogi eu cais gyda chyflwyno portffolio ar gyfer achredu dysgu blaenorol (APL/APEL/RPEL), yn unol â rheoliadau a pholisi GLlM.

Mae dilyniant uniongyrchol ar gael i ddysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli a Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Darperir y cwrs ar gampws Llandrillo-yn-Rhos mewn canolfan brifysgol arbenigol sy'n darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu sydd wedi'u teilwra i fyfyrwyr gradd.

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Gweithdai
  • Tiwtorialau
  • Modiwlau cyflogaeth
  • Siaradwyr gwadd

Gall y siaradwyr gynnwys ystod o arbenigwyr o sefydliadau partner gan gynnwys ymweld â phartneriaid prifysgol ag arbenigeddau mewn gofal iechyd, y ddynoliaeth a’r gwyddorau cymdeithasol, polisi, plismona a throseddeg, lles a chwnsela.

Amserlen:

  • Llawn amser: 2 flynedd - 2 ddiwrnod yr wythnos, dydd Mawrth a dydd Mercher o fis Medi 2024, fel arfer rhwng 9am-4pm
  • Rhan-amser: 3 blynedd - 1 diwrnod yr wythnos, yn nodweddiadol rhwng 9am-4pm

Dyddiad dechrau: 10 Medi 2024

Gofal bugeiliol
Mae’r system Tiwtorial Personol yn nodwedd bwysig o gymorth myfyrwyr ac mae sesiynau tiwtorial yn gyfle i drafod ystod o faterion gan gynnwys cynnydd, dilyniant, cymorth lleoliad gwaith ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol.

Ffioedd
Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau ychwanegol
Bydd gwybodaeth fanylach am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliadau gwaith / profiad gwaith (os yw'n berthnasol) yn nogfen ddilysu'r rhaglen ac fe’i heglurir i chi yn eich cyfweliad.

Gallai hyn gynnwys costau gofal plant, teithio sy’n gysylltiedig â mynychu’r rhaglen a phrofiad gwaith, DBS ar gyfer lleoliad profiad gwaith, ymweliadau allanol a theithiau maes i wella dysgu, dillad addas ar gyfer gwaith/lleoliad, argraffu ychwanegol uwchben y lwfans, cofbinnau, costau eraill sy’n ymwneud â deunydd ysgrifennu. a chostau sy'n gysylltiedig â seremoni raddio megis llogi gŵn a ffotograffau.

Bydd angen i fyfyrwyr ystyried costau'r adnoddau a'r deunyddiau y bydd arnynt eu hangen i astudio'n annibynnol y tu allan i'r coleg e.e. cyfrifiadur personol/gliniadur, mynediad i'r rhyngrwyd, meddalwedd, deunyddiau y bydd arnynt eu hangen ar gyfer datblygu sgiliau ymarferol, a llyfrau/cyfnodolion yr hoffent eu prynu yn hytrach na'u benthyg, neu gostau ychwanegol am wneud cais am fenthyg cyhoeddiadau nad ydynt ar gael drwy'r gwasanaeth llyfrgell Gall myfyrwyr ddefnyddio llyfrgelloedd y coleg a gwasanaethau benthyg llyfrau, ond rhaid iddynt dalu dirwy am lyfrau sy'n cael eu dychwelyd yn hwyr neu'n cael eu colli.

Cyswllt:

Danielle Hughes (Arweinydd Rhaglen): hughes15d@gllm.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am ein graddau, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae ein hasesiadau yn caniatáu i ddysgu gael ei gymhwyso yn seiliedig ar eich diddordebau sylfaenol, profiad galwedigaethol a lleoliadau. Ceir gwybodaeth fanylach am y Modiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth am y Campws'.

Y mathau o asesiadau yn cynnwys portffolios Unigol:⁠

  • Aseiniadau ysgrifenedig
  • Arholiad cwestiynau amlddewis
  • Dyddiadur adfyfyriol⁠
  • Prosiect Grŵp
  • Trafodaeth broffesiynol
  • ⁠Cyflwyno
  • Cynnig ymchwil
  • Astudiaethau achos

Dilyniant

Ble gall y cwrs hwn fynd â mi yn fy ngyrfa yn y dyfodol?

Wedi'i ddatblygu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr lleol, bydd y cwrs hwn yn sicrhau eich bod yn meithrin y sgiliau diweddaraf sydd eu hangen ar gyflogwyr. Mae rolau mewn addysg, y trydydd sector, lles, ac iechyd a gofal cymdeithasol i gyd yn feysydd blaenoriaeth ar gyfer Gogledd Cymru, ac rydym ar fin gweld cynnydd parhaus yn y galw am rolau cysylltiedig yn y blynyddoedd i ddod.

Gall cwblhau'r cwrs hwn arwain at nifer o ddewisiadau dilyniant o ran addysg a chyflogaeth:

  • l Rolau uwch mewn amrywiaeth o sectorau a chyd-destunau gwaith, gan gynnwys rolau proffesiynol, arwain neu reoli
  • l Symud ymlaen yn uniongyrchol i raglenni PCE/TAR GLlM i hyfforddi i fod yn ddarlithydd cymwysedig mewn Addysg Bellach. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma. TAR GLIM
  • l Symud ymlaen yn uniongyrchol i raddau BA (Anrh) GLlM, gan gynnwys Arweinyddiaeth Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol, sy'n eich galluogi i gwblhau gradd er anrhydedd lawn. I gael rhagor o wybodaeth: Graddau GLIM

Yn dilyn gradd BA, gallech symud ymlaen i wahanol raddau meistr ôl-raddedig yn rhanbarth Gogledd Cymru. Er enghraifft:

  • MA Addysg
  • MA Gwaith cymdeithasol
  • MA Troseddeg a Chymdeithaseg
  • MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
  • MA Cymdeithaseg
  • MA Polisïau Cymdeithasol
  • MSc Nyrsio Oedolion, Plant neu Iechyd Meddwl
  • MSc Cwnsela
  • MSc Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles
  • MSc Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd

Drwy gydol y flwyddyn, caiff myfyrwyr AU GLlM y wybodaeth ddiweddaraf am ffeiriau recriwtio graddedigion a gynhelir yn lleol a thu hwnt e.e. yn Lerpwl a Manceinion.⁠ ⁠Mae'r Arweinwyr Rhaglenni yn rhoi cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau ac yn gweithio gyda Gyrfa Cymru.

Mae GLlM hefyd wedi cyflwyno Dyfodol Myfyrwyr fel rhan o'r strategaeth AU bresennol, a fydd yn gwella datblygiad cyflogadwyedd dysgwyr. Llwyddodd cyn-raddedigion o GLlM i gael gwaith gyda Chynghorau Bwrdeistrefi Sirol ar amrywiol brosiectau yn cynnwys Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar, Grwpiau Ymgynghorol Arbenigol a gwasanaethau i boblogaethau arbennig. Cafodd graddedigion eu recriwtio hefyd gan elusennau lleol a chenedlaethol sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol, diogelu plant a chamddefnyddio sylweddau. ⁠ ⁠

I’r rhai sy’n astudio er mwyn datblygu yn eu proffesiwn presennol, bydd meddu ar radd sylfaen lawn yn dangos sgiliau lefel uchel a all arwain at fwy o ddewisiadau gyrfa mewn amrywiaeth o gyd-destunau sector cyhoeddus a sector preifat, gyda’r posibilrwydd o gyfrifoldebau goruchwylio neu reoli.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth