Gradd Sylfaen (FdA) Ffotograffiaeth

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn amser
  • Hyd:

    Amser llawn: 2 blynedd NEU Rhan-amser: 4 mlynedd

    Dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau 9am - 5pm

  • Cod UCAS:
    046W
Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdA) Ffotograffiaeth

Graddau (Addysg Uwch)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi wedi gwirioni ar ffotograffiaeth? Hoffech chi feithrin sgiliau proffesiynol? Ar y cwrs hwn, cewch feithrin dealltwriaeth ymarferol o'r radd flaenaf o ffotograffiaeth. Byddwch yn dysgu'r technegau sylfaenol, a chewch arbenigo drwy gyfrwng amrediad o unedau dewisol.

Yn y flwyddyn gyntaf, darperir rhaglen ddwys a fydd yn datblygu'ch sgiliau mewn amryw o feysydd. Cyfunir sgiliau traddodiadol (fel argraffu cain, rheoli stiwdio a dadansoddi beirniadol) â'r sgiliau digidol sy'n angenrheidiol yn yr oes sydd ohoni.

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn dewis unedau i gyd-fynd â'ch sgiliau a'ch diddordebau personol.

Cymerwch olwg ar gylchgrawn ar-lein a gynhyrchwyd gan ein myfyrwyr: https://www.joomag.com/magazine/18percent-april-2016/0025720001457143022

Mae modiwlau yn cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

  • Y Broses Analog
  • Llif Gwaith Digidol a Chywiro Delweddau
  • Golygu a Dilyniannu
  • Tynnu Lluniau â Chamera ar Leoliad
  • Tynnu Lluniau â Chamera mewn Stiwdio
  • Y Print

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Portffolio Digidol
  • Rheoli Arddangosfeydd
  • Dulliau Ymchwilio a Sgiliau Astudio
  • Ymarfer Arbenigol
  • Y Llyfr

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd:

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy'n gallu dangos ymrwymiad i'r pwnc a photensial i gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus. Gellir sefydlu hyn drwy ddangos cymwysterau academaidd priodol neu drwy ddangos dawn a gwybodaeth gyfwerth. Gallwn hefyd ystyried profiad perthnasol.

Bydd pob ymgeisydd yn cael ei gyfweld a gofynnir iddynt ddangos portffolio o'u gwaith. Bydd ymgeiswyr o dramor yn gallu cyflwyno portffolio electronig.

Os oes gennych brofiad academaidd, mae'r cymwysterau mynediad canlynol yn dderbyniol:

  • Diploma mewn Astudiaethau Sylfaenol, Celf a Dylunio;
  • Mynediad at Addysg Uwch, Celf and Dylunio;
  • Lefel A mewn Celf neu Ddiploma Estynedig mewn Celf a Dylunio (o leiaf 48 pwynt UCAS);
  • City and Guilds Astudiaethau Creadigol neu gredydau Lefel 3 cyfwerth mewn Celf gan Rwydwaith y Coleg Agored.
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg neu Rhifedd (neu gyfwerth Sgil Allweddol/Hanfodol)
  • Ar gyfer ymgeiswyr heb y cymwysterau hyn, bydd angen dangos tystiolaeth o sgiliau rhifedd ar lefel addas i fodloni gofynion y rhaglen yn llwyddiannus.

Gofynion Iaith:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf.
  • Dylai unrhyw radd, diploma neu dystysgrif gymwys fel a nodir uchod fod wedi cael eu dysgu a'u hasesu yn Gymraeg/Saesneg.
  • Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 4: IELTS 5.5 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.0)
  • Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 5: IELTS 6.0 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.5).

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Seminarau
  • Trafodaethau beirniadol
  • Tiwtorialau
  • Siaradwyr a darlithwyr gwadd
  • Ymweld ag orielau cenedlaethol a rhyngwladol

Byddwch yn gweithio mewn ystafelloedd pwrpasol, dan oruchwyliaeth tiwtoriaid sydd â chymwysterau rhagorol (ac sydd, lawer ohonynt, yn arfer eu crefft).

Drwy gydol y cwrs, bydd eich Tiwtor Personol yn adolygu'ch cynnydd, yn eich helpu i ddewis a chynllunio aseiniadau ac yn trafod sut y gallwch ddatblygu'ch portffolio.

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Amserlen

  • Llawn amser: 2 flynedd, 3 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
  • Rhan-amser: 4 blynedd, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau ychwanegol

Gall costau ychwanegol gynnwys cymryd rhan mewn ymweliadau astudio a dylai myfyrwyr gyllidebu tua £250 ar gyfer hyn.

Efallai y bydd myfyrwyr am gyllidebu ar gyfer eu hoffer ffotograffig personol eu hunain. Fodd bynnag, mae gan yr adran stoc fach o offer ffotograffig sy'n cynnwys camerâu digidol ac analog, ar ffurf ganolig a fformat mawr. Cefnogir y stiwdio gyda phecynnau goleuo cludadwy. Gellir archebu offer ar system fenthyca pythefnosol a gellir ystyried cytundebau tymor hwy os oes angen.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Ysgoloriaeth Cymhelliant Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ewch i wefan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael gwybod mwy am yr Ysgoloriaeth Cymhelliant.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, neu am gymorth i lenwi’r cais, mae croeso i chi gysylltu â Swyddogion Cangen Grŵp Llandrillo Menai ar – colegcymraeg@gllm.ac.uk

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Geoff Wedge (Rhaglen Arweinydd): wedge1g@gllm.ac.uk

Diane Roberts (Gweinyddiaeth): robert18d@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Byddwch yn cael eich asesu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng gwaith cwrs, a fydd yn cynnwys gwaith portffolio ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig. Yn rhan o'r broses asesu, cewch gyfle hefyd i arddangos eich gwaith yn gyhoeddus ar ddiwedd y cwrs.

Asesir eich gwaith yn yr holl fodiwlau pan gyflwynir y modiwlau hynny, a chewch adborth rheolaidd gan Diwtoriaid Personol ac aelodau eraill o'r staff. O ran y modiwlau a gyflwynir mewn stiwdio, byddwch yn cyflwyno'ch gwaith gorffenedig i'r staff priodol. Ar ôl asesu pob modiwl, bydd y staff yn cyfarfod i drafod eich cynnydd ac yn trefnu unrhyw gefnogaeth y mae arnoch ei hangen. Fel rheol, ar derfyn pob aseiniad, cynhelir trafodaeth feirniadol ymhlith y grŵp.

Bydd y cwrs yn caniatáu i chi gymryd rhan yn y broses asesu drwy ddarparu tystiolaeth o'r hyn y gwnaethoch ei ddysgu, a thrwy olrhain, cofnodi a mesur eich datblygiad eich hun. Caiff eich hunanasesiadau eu cadw mewn ffeil bersonol a byddant yn help i ddangos yr hyn yr ydych wedi'i gyflawni. Byddwch hefyd yn datblygu proffil asesu ar sail y gwaith a wnewch yn y stiwdio ac mewn gweithdai, eich adroddiadau, tasgau grŵp a chyflwyniadau.

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith. Byddwch wedi meithrin y sgiliau sy'n angenrheidiol i gael swydd neu fod yn hunangyflogedig mewn amryw o feysydd creadigol, gan gynnwys celf ffotograffig yn ogystal â meysydd dylunio a chyhoeddi.

At Grŵo Llandrillo Menai, cewch gyfle i fynd ymlaen i ddilyn cwrs BA Anrhydedd. Mae'n bosibl hefyd y cewch eich eithrio rhag gorfod dilyn rhan o'r cwrs.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Gwybodaeth am yr Unedau

Yn y flwyddyn gyntaf, darperir rhaglen ddwys a fydd yn datblygu'ch sgiliau mewn amryw o feysydd. Cyfunir sgiliau traddodiadol (fel argraffu cain, rheoli stiwdio a dadansoddi beirniadol) â gwaith digidol sy'n angenrheidiol yn yr oes fodern hon.

Elfen bwysig o raglen yr ail flwyddyn yw'r modiwl gwaith arbenigol. Cewch gryfhau'r sgiliau y gwnaethoch eu dysgu yn y flwyddyn gyntaf er mwyn dilyn diddordeb neu lwybr penodol ym maes ffotograffiaeth e.e. ffotograffiaeth ddogfennol, ffotograffiaeth fasnachol, ffotograffiaeth ddigidol, ffotograffiaeth analog neu unrhyw gynnig sy'n bodloni meini prawf y modiwl.

Ar ddiwedd y cwrs, bydd gennych bortffolio cynhwysfawr o waith printiedig ynghyd â phlatfform digidol, e.e. tudalen we neu flog, i ddangos eich gwaith. Disgwylir y byddwch wedi cymryd rhan mewn arddangosfa oddi ar y safle ac wedi dylunio o leiaf dau lyfr a'u cyhoeddi eich hun. Yn sail i'r holl brosiectau, mae elfen o ymchwilio a dadansoddi beirniadol.

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol, 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Mae modiwlau'r cwrs hwn yn cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

Y Broses Analog (20 credyd, gorfodol)

Bydd y modiwl yn galluogi'r dysgwyr i weithio gyda chaledwedd a deunyddiau ffotograffig. Rhoddir pwyslais ar raddnodi camerâu, ffilmiau a chreu cynnyrch creadigol mewn ystafell dywyll. Bydd y dysgwyr yn dysgu sut i brosesu ac argraffu ffilm du a gwyn, a rhoddir cryn bwyslais ar sensitometreg (y gallu i drosglwyddo cyfarwyddiadau penodol er mwyn Prosesu'n Broffesiynol mewn Labordy). Ymdrinnir hefyd â thechnolegau E6 (tryloywder) a C42 (print lliw). (Portffolio 100%)

Astudiaethau Cyd-destunol 1 (10 credyd, craidd)

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno dysgwyr i hanes rhyfeddol ffotograffiaeth – ei gwahanol agweddau a'i pherthynas ag arferion cyfoes. Bydd hyn yn eu helpu i wella eu harferion personol o ran tynnu lluniau â chamera, gan roi syniad clir iddynt ynghylch sut i osod gwaith yng nghyd-destun fframwaith hanesyddol a dechrau deall cyfraniad ffotograffiaeth o ran cyfleu ystyr. (Traethawd 60%, Cyflwyniad 40%)

Llif Gwaith Digidol a Chywiro Delweddau (20 credyd, craidd)

Nod y modiwl hwn yw meithrin sgiliau a dealltwriaeth o ran canfod, creu, datblygu a rheoli delweddau digidol i ddibenion penodol. Bydd dysgwyr yn gweithio gydag amrediad o ddyfeisiau mewnbynnu a rhaglenni meddalwedd a chânt eu hannog i arbrofi â dulliau delweddu digidol sy'n ystyried gosodiad, dyluniad a dosbarthiad digidol. (Traethawd 40%, Portffolio Gweledol 60%)

Golygu a Dilyniannu (10 credyd, gorfodol)

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys datblygu a chyflwyno portffolio terfynol o waith ymarferol y flwyddyn gyntaf. Bydd y dysgwr yn datblygu canlyniadau o'r modiwlau meithrin sgiliau er mwyn cyflwyno set o ffotograffau clir eu bwriad, a osodwyd mewn trefn, sy'n cynnwys testun, yn dibynnu ar fformat penodol ac yn arddangos gwerthoedd cynhyrchu perthnasol.

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1 - Rhoi Theori ar Waith (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw galluogi dysgwyr i wneud nifer o dasgau sy'n gysylltiedig â gwaith, ac a drefnwyd ar y cyd gan gyflogwyr/cynrychiolwyr o'r diwydiant a staff y Grŵp. (Portffolio 100%)

Tynnu Lluniau â Chamera ar Leoliad (10 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth y dysgwyr a datblygu eu sgiliau o ran defnyddio technegau ffotograffig ar leoliad. Canolbwyntir ar gynllunio a pharatoi'r safle, ar y golau, y cyfarpar a'r arddull weledol. Bydd y dysgwyr yn ymchwilio i amrywiol ddulliau o dynnu lluniau â chamera ar leoliad er mwyn dod i wybod am y strategaethau technegol a gweledol a gysylltir â meysydd penodol e.e. tirluniau, ffasiwn, hysbysebu, newyddiaduriaeth ac ati. (Portffolio 60%, Myfyrdod 20%, Asesiad Risg 20%)

Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw meithrin sgiliau astudio'r dysgwyr, eu galluogi i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig academaidd cadarn, cyflwyno sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwilio sylfaenol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau ysgrifennu academaidd, defnyddio confensiynau academaidd, ymchwilio er mwyn canfod gwybodaeth, adfyfyrio a rheoli a threfnu eu gwaith. (Portffolio 100%)

Tynnu Lluniau â Chamera mewn Stiwdio (10 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno dysgwyr i'r cysyniad o stiwdio fel 'gofod', a'r syniad o 'arferion stiwdio', gan edrych ar yr ystyriaethau technegol, damcaniaethol a chreadigol sy'n gysylltiedig â'r gofod hwnnw. Rhoddir pwyslais ar ddeall ochr dechnegol goleuadau a chyfarpar stiwdio, a'r posibiliadau creadigol niferus o ran defnyddio stiwdio mewn fframweithiau penodol a bwriadus. (Gwerthusiad 20%, Asesiad Ffotograffig 60%, Asesiad Risg 20%)

Y Print (10 credyd, gorfodol)

Yn y modiwl hwn, defnyddir y sgiliau a ddatblygwyd yn y modiwlau 'Y Broses Analog' a 'Llif Gwaith Digidol a Chywiro Delweddau'. Bydd y dysgwr yn talu sylw penodol i ansawdd ei luniau drwy ddod i ddeall y print ffotograffig fel cyfrwng i wireddu gweledigaeth greadigol. Canolbwyntir hefyd ar orffennu a chyflwyno. (Asesiad ffotograffig 80%, Cyflwyniad / Dadansoddiad 20%)

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

Portffolio Digidol (10 credyd, gorfodol)

Yn y modiwl hwn, astudir nifer o ddulliau gwahanol o ddatblygu portffolios digidol rhyngweithiol. Bydd dysgwyr yn ystyried eu harferion proffesiynol ac yn archwilio nifer o ddewisiadau ar y we i greu portffolio digidol, rhai annibynnol a rhai sy'n seiliedig ar y we. (Gwerthusiad 20%, Portffolio 80%)

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 2 - Adfyfyrio Proffesiynol a Datblygiad Personol (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw rhoi i chi'r cyfle i ddadansoddi gwerth eich dysgu mewn cyd-destunau galwedigaethol a gwaith-benodol. Wrth wneud hynny, bydd gofyn i chi adfyfyrio ar eich profiadau dysgu, gan ystyried sut y mae wedi gwella'ch gwybodaeth a'ch sgiliau academaidd a galwedigaethol, eich hunan-barch a'ch cyflogadwyedd yn awr ac yn y dyfodol. (Cynllun Datblygu Proffesiynol 50%, Myfyrdod 50%)

Rheoli Arddangosfeydd (10 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw meithrin sgiliau a dealltwriaeth o reoli arddangosfeydd ac annog myfyrwyr i gysylltu ag unigolion a sefydliadau a chymryd rhan yn y broses arddangos, fel rheolwr a chyfrannwr. (Gwerthusiad 40%, Arddangosfa ffotograffau 60%)

Ymarfer Proffesiynol (20 credyd, craidd)

Bydd y modiwl yn rhoi'r cyfle i ddysgwyr ymchwilio i arferion o fewn eu maes arbenigol a datblygu strategaethau marchnata i hyrwyddo eu gwaith eu hunain. Bydd pwyslais ar fynd ymlaen i waith neu astudiaethau pellach. (Cyflwyniad 40%, Portffolio proffesiynol 60%)

Dulliau Ymchwilio a Sgiliau Astudio (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ddefnyddio amrediad o sgiliau ymchwilio priodol i astudio'r diwydiannau creadigol yn gyffredinol a ffotograffiaeth yn benodol. (Cynnig ymchwil 100%)

Ymarfer Arbenigol (20 credyd, gorfodol)

Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i ddysgwyr ddatblygu llwybr dysgu arbenigol ym Mlwyddyn 2. Bydd dysgwyr yn cyflwyno eu cynigion ar ddechrau'r ail flwyddyn ac yn amlinellu eu bwriad a'r allbynnau. Y nod ydy datblygu sgiliau a dealltwriaeth dysgwyr i baratoi a rhoi cyd-destun i'w ymarfer ffotograffig arbenigol a gwneud hynny wrth astudio'n annibynnol a myfyrio beirniadol. (Gwerthusiad 20%, Portffolio 70%, Cynnig 10%)

Y Llyfr (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw adeiladu ar y sgiliau dilyniannu delweddau a chyhoeddi byd gwaith a gyflwynwyd yn ystod blwyddyn gyntaf y cwrs. Bydd myfyrwyr yn archwilio'r llyfr fel adnodd i ddosbarthu a hyrwyddo eu gwaith ynghyd ag ystyried cysondeb gwaith dylunio a dehongli wrth gynhyrchu llyfrau. (Gwerthusiad 20%, Llyfr Lluniau 60%, Cyflwyniad 20%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4+5

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Dwyieithog:

Mae 33% o’r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs llawn amser


Cwrs rhan amser