Gradd Sylfaen (FdSc) Animeiddio 3D a Datblygu Gemau

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn amser
  • Hyd:

    Llawn-amser: 2 flynedd NEU Rhan-amser: 4 blynedd. Hefyd ar gael ar sail fodiwlaidd.

    Dydd Llun a Dydd Mawrth, 9am-5pm

  • Cod UCAS:
    6T49
Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdSc) Animeiddio 3D a Datblygu Gemau

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Llawn Amser

Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.

Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.

Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa heriol yn y diwydiant gemau cyfrifiadurol? Oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn animeiddio?

Erbyn hyn mae gemau cyfrifiadurol yn ddiwydiant byd-eang sy'n werth biliynau o bunnoedd. I ymdopi â'r galw cynyddol hwn, mae ar y diwydiant angen mwyfwy o ddatblygwyr gemau.

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi i fod yn un o'r arbenigwyr hynny, a bydd yn fodd i chi ymgymryd â nifer o swyddi yn y sector amrywiol hwn. Yn ystod y cwrs, byddwch yn elwa ar amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf, y dechnoleg ddiweddaraf, cyfleusterau cyfrifiadurol mynediad agored a chefnogaeth wych gan diwtoriaid.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig llwybr i swyddi ym maes datblygu gemau ac animeiddio, maes creadigol sy'n newid yn gyflym, a chewch feithrin gwybodaeth a sgiliau ymarferol mewn amrediad o feysydd. Os ydych wedi dilyn cwrs Lefel 3 (neu gymhwyster cyfatebol) ac os hoffech fynd ymlaen i ddysgu rhagor am feysydd eraill, gan gynnwys rhaglennu, datblygu'r we a datblygu meddalwedd, mae'r cwrs hwn yn addas i chi.

Ar y cwrs, cewch ddealltwriaeth gadarn o sawl maes craidd ym maes datblygu gemau cyfrifiadurol, gan gynnwys modelu ac animeiddio 3D, sain, rhaglennu a dylunio rhyngwynebau defnyddwyr.

Yn ogystal â'r wybodaeth sylfaenol, cewch feithrin sgiliau proffesiynol, fel gweithio mewn tîm a datrys problemau, sy'n hanfodol o ran datblygu'ch gyrfa. Byddwch yn datblygu dull arloesol a hyblyg o weithio, gan ddefnyddio llawer o sgiliau, yn ogystal â meithrin arbenigedd technegol helaeth.

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n aelod o Raglen Academaidd PlayStation®First sy'n cael ei rhedeg gan Sony Interactive Entertainment Europe (SIEE). Mae'r rhaglen hon yn golygu bod gan staff a myfyrwyr fynediad at adnoddau caledwedd a meddalwedd datblygu proffesiynol.

Mae modiwlau yn cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

  • Rhaglennu Sylfaenol
  • Sgiliau Astudio ym maes Gemau
  • Diwydiant a Chyflogadwyedd
  • Cyflwyniad i Fodelu ac Animeiddio 3D
  • Cyflwyniad i Fodelu Cymeriadau
  • Creu Lefelau
  • Mecaneg Lefelau
  • Rhyngwyneb a Phrofiad Defnyddwyr

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Modelu ac Animeiddio Cymeriadau
  • Datblygu Gemau
  • Prosiect Ymchwil yn gysylltiedig â'r Diwydiant Gemau
  • Technegau Goleuo a Rendro
  • Prosiect Seiliedig ar Fethodoleg
  • Datblygu Realaeth Gymysg
  • Profi ac Optimeiddio
  • Dylunio a Defnyddio Gwead

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd:

  • Fel arfer disgwylir i ymgeiswyr fod wedi ennill 72 o bwyntiau UCAS lle mae 56 pwynt yn dod o gwrs cyfrifiadurol neu lefel 3 sy'n gysylltiedig â chyfrifiaduron, neu bynciau A2 tebyg
  • TGAU gradd C/4 neu uwch (neu gymhwyster Sgil Allweddol) mewn Mathemateg, Cymraeg (iaith gyntaf) / Saesneg a Gwyddoniaeth
  • Os nad oes gennych y cymwysterau uchod, efallai y gallwn eich ystyried ar sail unigolion cymwys os gallwch ddangos profiad perthnasol, potensial a chymhelliad
  • Bydd myfyrwyr gyda chymwysterau tramor cyfwerth perthnasol yn cael eu hystyried
  • Gall ymarferwyr profiadol ddilyn y rhaglen os oes ganddynt gymwysterau NVQ3.

Gofynion Iaith:

  • Yn rhugl yn y Gymraeg/Saesneg, gyda chymhwyster cyfwerth â TGAU gradd C/4 neu'n uwch
  • Dylai unrhyw radd, diploma neu dystysgrif gymwys fel a nodir uchod fod wedi cael eu dysgu a'u hasesu yn Gymraeg/Saesneg.
  • Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 4: IELTS 5.5 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.0)
  • Ar gyfer ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad i Lefel 5: IELTS 6.0 neu'n uwch (heb ddim elfen yn is na 5.5).

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd rhyngweithiol
  • Gweithdai ymarferol
  • Trafodaethau / gweithgareddau grŵp
  • Siaradwyr Gwadd
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
  • Tiwtorial ar-lein
  • Byddwch yn dysgu'n anffurfiol drwy gymryd rhan, gan gael digon o gyfle i archwilio ar eich liwt eich hun a bod yn greadigol.
  • Mae'n bosibl hefyd y cewch brofiad gwaith yn y maes yn ystod y cwrs.

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Amserlen

  • Llawn amser: 2 flynedd, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
  • Rhan-amser: 4 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Jordan Edwards (Rhaglen Arweinydd): edward2j@gllm.ac.uk

Diane Roberts (Gweinyddiaeth): clarke1d@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Aseiniadau ymarferol a theoretig
  • Adroddiadau
  • Cyflwyniadau llafar
  • Gwaith prosiect
  • Portffolios
  • Asesiad seiliedig ar waith
  • Aseiniadau grŵp / tîm
  • Llyfrau log a gwaith dyddiadur dysgu

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Bydd y cymhwyster hwn yn cynnig datblygiad personol parhaus i unigolion sydd am gael gwaith perthnasol yn y sector neu sydd am fynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd Anrhydedd ar Lefel 6. Bydd yn eich paratoi i weithio yn y diwydiant gemau ar eich liwt eich hun neu'n rhan o sefydliad mwy.

"Mae diwydiant gemau'r Deyrnas Unedig yn cyflogi dros 9,000 o ddatblygwyr hynod fedrus a chyflogir 80% o'r rhain y tu allan i Lundain. Mae gan 80% o'r rhai sy'n gweithio mewn stiwdios fel Climax, Jagex, Kuju Entertainment, Rebellion ac Ubisoft Reflections radd neu gymhwyster uwch" (Tiga, 2013).

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Gwybodaeth am yr Uned

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau a ganlyn:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

Amgylcheddau 3D (20 credyd, gorfodol):

Byddwch yn dysgu am dechnegau modelu penodol sy'n ymwneud a pheiriannau gemau, gan gynnwys creu geometreg, ymwybyddiaeth o ofod, gwead, deunyddiau, golau, ffiseg, trin priodweddau a chreu naws. (Creu/Adeiladu, Dylunio/Cynllunio, Myfyrio/Blog, Adrodd, Prawf)

Cynhyrchu Sain (10 credyd, gorfodol):

Byddwch yn dod i ddeall egwyddorion recordio digidol, sut i gipio, golygu a darlledu eu hallbwn o fewn fframwaith cynhyrchiad cyfryngol. (Creu/Adeiladu, Dylunio/Cynllun, Myfyrio/Blog, Adroddiad, Prawf)

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1 - Rhoi Sgiliau a Chymwyseddau ar Waith (20 credyd, gorfodol):

Nod y modiwl hwn yw eich galluogi i wneud nifer o dasgau sy'n gysylltiedig â swydd, ac a drefnwyd gan gyflogwyr/cynrychiolwyr o'r diwydiant a staff y Grŵp ar y cyd. (Creu/Adeiladu, Cyflwyno, Ffolder Cynhyrchu, Myfyrio/Blog)

Dylunio Cyfryngau Rhyngweithiol (10 credyd, gorfodol):

Byddwch yn dod i ddeall gwerth y ddamcaniaeth ynghylch Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron (HCI) ym maes dylunio rhyngwynebau, a sut i greu rhaglenni dyfeisiadau symudol syml (apiau) gan ddefnyddio amrediad o elfennau cyfryngol, gan gynnwys animeiddio, graffeg a sain. (Creu/Adeiladu, Dylunio/Cynllun, Myfyrio/Blog, Adroddiad, Prawf)

Cyflwyniad i Fodelu ac Animeiddio 3D (20 credyd, gorfodol):

Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i egwyddorion a thechnegau sylfaenol ym maes modelu ac animeiddio 3D a ddefnyddir i greu asedau ar gyfer gemau. (Creu/Adeiladu, Dylunio/Cynllunio)

Cyflwyniad i Fodelu Cymeriadau (10 credyd, gorfodol):

Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i egwyddorion a thechnegau sylfaenol ym maes modelu cymeriadau 3D. (Creu/Adeiladu, Dylunio/Cynllunio)

Egwyddorion ac Arferion Rhaglennu:

Bydd yr uned hon yn eich cyflwyno i'r cysyniadau sylfaenol a ddefnyddir wrth ddatblygu rhaglenni cyfrifiadurol gan ddefnyddio iaith ddatblygu briodol. (Creu/Adeiladu, Dylunio/Cynllunio, Prototeip, Prawf)

Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd, gorfodol):

Nod y modiwl hwn yw meithrin sgiliau astudio'r dysgwyr, eu galluogi i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig academaidd cadarn, cyflwyno sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwilio sylfaenol. (Portffolio, Myfyrdod/Blog, Adroddiad)

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

Modelu ac Animeiddio Cymeriadau (20 credyd, gorfodol):

Yn y modiwl hwn, byddwch yn edrych ar y camau sy'n angenrheidiol i greu cymeriadau sy'n barod i'w defnyddio mewn gemau cyfrifiadurol ac i baratoi'r cymeriadau hynny i ryngweithio gyda gwrthrychau mewn gemau cyfrifiadurol. (Creu/Adeiladu, Dylunio/Cynllun)

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 2 - Adfyfyrio Proffesiynol a Datblygiad Personol (20 credyd, gorfodol):

Nod y cwrs hwn yw rhoi i chi'r cyfle i ddadansoddi gwerth eich dysgu mewn cyd-destunau galwedigaethol a gwaith-benodol. (Cynllun Datblygu Personol, Myfyrdod / Blog, Adroddiad)

Entrepreneuriaeth a Hyrwyddo'ch Hun (10 credyd, gorfodol):

Nod y modiwl hwn yw dadansoddi sut mae pobl sy'n gweithio yn y cyfryngau yn marchnata a hyrwyddo eu hunain, ysgrifennu dogfennau busnes fel cynigion a chynlluniau busnes, dynodi amrediad o ystyriaethau ariannol a'ch galluogi i ddatblygu eich sgiliau eich hun o ran marchnata a hyrwyddo'ch hun. (Creu/Adeiladu, Portffolio, Prototeip, Myfyrdod/Blog, Adroddiad)

Datblygu Realaeth Gymysg (10 credyd, gorfodol)

Yn y modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn datblygu cynnwys ar gyfer parthau realaeth gymysg. Mae hyn yn cynnwys edrych ar y farchnad bresennol, ac ar strategaethau uwchraddio posibl ar gyfer rhaglen arfaethedig. Bydd y myfyrwyr yn gwerthfawrogi'r platfform targed wrth gynhyrchu dogfennau cynllunio ar gyfer eu rhaglen, tra hefyd yn dysgu sut i ystyried gofod a graddfa mewn perthynas â realaeth gymysg. Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i fynd ati'n gywir i ddatblygu cynnwys ar gyfer realaeth gymysg a pha lyfrgelloedd rhaglennu fydd angen iddynt eu defnyddio. (Creu/Adeiladu, Dylunio/Cynllunio, Portffolio, cyflwyno, Adfyfyrio/Blog, Prawf)

Prosiect Sylweddol ym maes Dylunio Gemau (20 credyd, craidd):

Nod y modiwl hwn yw rhoi i chi'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i gynllunio a rheoli eich prosiect gemau cyfrifiadurol eich hun. (Creu/Adeiladu, Dylunio/Cynllunio, Cyflwyniad, Ffolder Cynhyrchu, Myfyrio/Blog, Adroddiad)

Rhaglennu ar gyfer Gemau 3D (20 credyd, craidd):

Byddwch yn dod i ddeall y broses o raglennu swyddogaethau gemau sylfaenol ac ychwanegu swyddogaethau eraill mewn amgylchedd 3D. (Creu/Adeiladu, Dylunio/Cynllunio, Prototeip, Prawf)

Prosiect Ymchwil yn gysylltiedig â'r Diwydiant Gemau (20 credyd, gorfodol):

Nod y modiwl yw rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio amrediad o sgiliau ymchwilio priodol i astudio'r diwydiannau creadigol yn gyffredinol a datblygu gemau yn benodol. Drwy gyfrwng traethawd estynedig, bydd y modiwl yn eu paratoi i astudio ymhellach ar Lefel 6, neu i gael gyrfa fel ymchwilydd. (Adroddiad)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4+5

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Dwyieithog:

n/a

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs llawn amser


Cwrs rhan amser