Diploma Sylfaen mewn E-chwaraeon (Esports) - Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
1 blwyddyn
Diploma Sylfaen mewn E-chwaraeon (Esports) - Lefel 3Llawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ydych chi wrth eich bodd yn chwarae gemau cyfrifiadur? Ydych chi'n teimlo'n frwdfrydig iawn am hyn? Ydych chi eisiau cael gyrfa yn y maes?
Os felly, dyma'r cwrs i chi! Mae gennym ni Hwb Chwarae Gemau o'r radd flaenaf gyda'r offer gorau posib (Razer, MSi, Asus, Playsation, ac ati)
Mae E-chwaraeon yn rhan o ddiwydiant byd-eang sydd werth biliynau o bunnoedd heb unrhyw rwystrau corfforol.
Yn 2020, cyflogwyd 1200 o bobl yn uniongyrchol yn y diwydiant chwarae gemau - nid yw hynny'n cynnwys y swyddi sy'n gysylltiedig â chwarae gemau! Mae'r rhif hwn yn parhau i godi.
Gall agor nifer o ddrysau o ran gyrfa ym Mhrydain, yr Unol Daleithiau, Asia, Ewrop a thu hwnt!
Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i weithio yn y diwydiant E-chwaraeon. Gallwch hefyd weithio ym maes pêl-droed, rygbi neu chwaraeon eraill fel Dadansoddwr Data. Yn ogystal, mae posib mynd ymlaen i weithio ym maes marchnata neu ddewis gyrfa sy'n seiliedig ar dechnoleg. Mae'n gyfle i ddatblygu eich sgiliau a symud eich gyrfa ymlaen i'r maes newydd hwn ym myd busnes. Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau yn y coleg, bydd modd i chi wneud cais i fynd ymlaen i addysg bellach neu wneud gradd sylfaen ym maes e-chwaraeon, chwaraeon, busnes neu hamdden. Mae hyd yn oed David Beckham wedi troi at y maes!
Mae'r cymhwyster hwn gyda Pearson, sefydliad sydd ymhlith y mwyaf blaenllaw yn y byd, yn cynnwys ystod o sgiliau y gellir eu trosglwyddo a fydd yn galluogi'r dysgwyr i brofi agweddau gwahanol o fewn y maes e-chwaraeon a fydd yn eu helpu i fynd ymlaen i fyd gwaith, un ai'n syth, neu yn dilyn cyfnod o astudio pellach. Mae E-chwaraeon yn gyfle i gyfuno sgiliau cymdeithasol, corfforol, meddygol ac ariannol mewn un cymhwyster a fydd yn datblygu ac ehangu'r dysgu. Mae'r sgiliau hyn yn werthfawr iawn mewn gweithleoedd sy'n newid o hyd. Rhaid i ddysgwyr roi strategaeth, sgil a gwaith tîm ar waith er mwyn llwyddo. Bydd dysgwyr sy'n astudio'r cymhwyster hwn yn astudio nifer o unedau:
- Cyflwyniad i E-chwaraeon
- Sgiliau, Strategaethau a Gwaith Dadansoddi ym maes E-chwaraeon
- Menter ac Entrepreneuriaeth yn y Diwydiant E-chwaraeon
- Iechyd, Lles a Ffitrwydd Chwaraewyr E-chwaraeon
- Digwyddiadau E-chwaraeon
- Darlledu Byw
- Cynhyrchu Brand E-chwaraeon
- Cynhyrchu Fideo
- Dylunio Gemau
- Rhaglenni Busnes E-chwaraeon mewn Cyfryngau Cymdeithasol
- Sylwebu (Shoutcasting)
- Hyfforddi ym maes E-chwaraeon
- Seicoleg Perfformio mewn E-chwaraeon
- Rhwydweithio Cyfrifiadurol
Rydym yn gweithio gyda E-chwaraeon Cymru i gynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau, twrnameintiau cenedlaethol a chyfle i chwarae a rhannu gyda phobl eraill yn ogystal â rhoi cyfle i fod yn rhan o dimau cenedlaethol.
Cefnogir y cwrs gan gymdeithas E-chwaraeon Prydain ac rydym yn rhan o Bencampwriaeth E-chwaraeon Prydain.
Mae gennym ein tîm E-chwaraeon ein hunain o'r enw Dreigiau Llandrillo. Mae croeso i chi ymuno â'r tîm a chael cefnogaeth yn ystod eich amser yn astudio yma.
Gofynion mynediad
- 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.
- Gradd Teilyngdod mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Cyflwyniad
- Sesiynau yn y gweithdy
- Dysgu drwy wneud gwaith ymarferol
- Darlithoedd
- Digwyddiadau a chystadlaethau chwarae gemau
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
- Modiwlau yn y gweithle
- Siaradwyr gwadd
- Dysgu myfyriwr ganolog
Byddwch yn astudio mewn Hwb Chwarae Gemau pwrpasol yn defnyddio caledwedd arbenigol a'r dechnoleg ddiweddaraf. Byddwch yn dysgu'n anffurfiol drwy gymryd rhan, gan gael digon o gyfle i archwilio ar eich liwt eich hun a bod yn greadigol.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
The course is assessed through a blend of the following:
- Individual portfolios
- Reports
- Case studies
- Presentations
- Group reports
- Group presentations
Dilyniant
A rôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, cewch gyfle i fynd ymlaen i ddilyn cwrs Diploma Estynedig am flwyddyn arall. Mae yna hefyd nifer o gyfleoedd ar lefel Addysg Uwch gan fod nifer o Brifysgolion yn cynnig cwrs BA (Anrh) ym maes E-chwaraeon. Prif nod y cwrs yw cefnogi unigolion i fynd ymlaen i gyflogaeth ym maes E-chwaraeon mewn amrywiaeth o swyddi a rolau gwahanol. Dyma rai o'r swyddi sydd ar gael yn y meysydd hyn:
- chwaraewyr e-chwaraeon
- hyfforddwr tîm
- trefnydd digwyddiadau
- sylwebydd (shoutcaster) a chyflwynydd
- dylanwadwr ar y cyfryngau cymdeithasol
- golygydd cynhyrchu fideo
- creu cynnwys
- dadansoddwr data
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
3
Dwyieithog:
n/a