Cymhwyster Sylfaen ym maes Adeiladu (Gwaith Saer ac Asied ac Plymwaith)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CaMDA Dolgellau
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Cymhwyster Sylfaen ym maes Adeiladu (Gwaith Saer ac Asied ac Plymwaith)Llawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi gael gyrfa ym maes Peirianneg y Gwasanaethau Adeiladu – Plymwaith a Gwaith Saer ac Asiedydd? Rydych yn gwybod eich bod am ganolbwyntio ar un o'r crefftau hyn ym maes Adeiladu. Os felly, dyma'r cwrs i chi!
Ar y rhaglen hon, cewch eich cyflwyno i sgiliau sylfaenol Plymwaith a Gwaith Saer ac Asiedydd. Mae cwricwlwm y cwrs Sylfaen yn eang ac yn cynnwys gyrfaoedd a swyddi sydd i'w cael yn gyffredin yn y sector adeiladu.
Mae'r cymhwyster sylfaen yn cynnwys unedau a themâu sydd i'w cael hefyd ar gyrsiau Sylfaen eraill ym maes Adeiladu; y bwriad yw ehangu gwybodaeth am sut mae'r diwydiant adeiladu'n gweithio er mwyn paratoi dysgwyr yn well ar gyfer gweithio yn y sector.
Mae'r rhaglen yn addas ar gyfer amrywiaeth o bobl sy'n awyddus i weithio ym maes adeiladu. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr sydd newydd adael yr ysgol, neu unigolion o sectorau eraill sydd am newid gyrfa. Byddwch yn meithrin y wybodaeth ymarferol sydd ei hangen arnoch i fynd ymlaen i astudio am Gymhwyster Dilyniant ym maes Adeiladu (Lefel 2) neu i ymuno â'r diwydiant drwy gael prentisiaeth neu waith.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 4 TGAU Gradd G neu uwch
- neu fod wedi cwblhau'r cymhwyster Llwybr i Sgiliau Adeiladu gyda phresenoldeb o leiaf 85% ac adroddiad da gan eich tiwtor,
- neu gymhwyster lefel 1 perthnasol,
- neu brofiad perthnasol yn y diwydiant, neu waith perthnasol arall.
Os ydych yn mynd ymlaen o'r Llwybr Adeiladu i'r cwrs Sgiliau Adeiladu bydd angen i chi fod wedi cwblhau o leiaf gymhwyster Lefel Mynediad 3 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu neu ddangos tystiolaeth o gynnydd ynddynt.
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Yn ogystal â sgiliau Llythrennedd a Rhifedd, byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin â phynciau penodol.
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Gwaith grŵp
- Sesiynau ymarferol mewn gweithdai
- Dysgu yn y dosbarth
- Cefnogaeth tiwtor
- Ymweliadau addysgol
- Amgylchedd Dysgu Rhithwir
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Asesiadau ar-lein (sydd ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg. Gall dysgwyr fynd yn ôl a blaen rhwng y ddwy iaith yn ystod y prawf ar-lein)
- Prawf synoptig sy'n cynnwys y ddwy grefft
- Trafodaeth dan arweiniad
Dilyniant
Bydd y rhaglen yn rhoi i chi gymhwyster a set o sgiliau gwerthfawr a fydd yn eich helpu i gael Prentisiaeth, neu i barhau â'ch addysg drwy astudio am y Cymhwyster Dilyniant ym maes Adeiladu.
Cyfleoedd Dilyniant:
Cymhwyster Dilyniant ym maes Adeiladu
(Ar y rhaglen hon gall dysgwyr ganolbwyntio ar un grefft benodol)
- Gwaith Brics
- Gwaith Saer ac Asiedydd
- Plastro
- Paentio ac Addurno
Prentisiaeth ym maes Adeiladu
- Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwaith Saer ar Safle
- Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwaith Plymio a Gwresogi
Mae prentisiaeth yn llwybr dilyniant delfrydol o'r Cymhwyster Sylfaen. Mae prentisiaethau i'w cael ym mhob crefft ac nid oes rhaid cadw at y crefftau y canolbwyntiwyd arnynt yn ystod y cwrs Cymhwyster Sylfaen.
( er mwyn cael prentisiaeth yn y diwydiant adeiladu mae'n ofynnol i ddysgwyr gwblhau'r Cymhwyster Sylfaen ym maes Adeiladu. Nid yw dysgwyr sydd wedi cwblhau'r cymhwyster hwn tra ar gwrs adeiladu llawn amser yng Ngrŵp Llandrillo Menai yn gorfod cwblhau'r Cymhwyster Sylfaen yn ystod eu prentisiaeth)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
2
Dwyieithog:
n/a