TGAU Bioleg
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
30 wythnos, 3 awr yr wythnos
TGAU BiolegLlawn Amser (Addysg Bellach)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae TGAU Bioleg yn cynnig y cyfle i chi astudio gwyddor bywyd o organebau un gellog i ecosystemau byd-eang.
At bwy mae'r cwrs wedi'i anelu?
Unrhyw un â diddordeb mewn cael cymhwyster TGAU neu'n dymuno gwella'u gradd flaenorol yn y pwnc.
Meysydd Allweddol y byddwch yn eu hastudio:
Mae’r cwrs yn cynnwys yr unedau a ganlyn:
Uned 1: CELLOEDD, SYSTEMAU ORGANAU ac ECOSYSTEMAU
Mae'r meysydd a astudir yn cynnwys: ensymau, y system gylchrediad, y system resbiradol, ffotosynthesis, cadwynau bwyd a gweoedd bwyd.
Arholiad ysgrifenedig: Cymysgedd o gwestiynau atebion byr, cwestiynau wedi'u strwythuro, ysgrifennu estynedig a chwestiynau ymateb i ddata, gyda rhai mewn cyd-destun ymarferol.
Uned 2: AMRYWIAD, HOMEOSTASIS a MICRO-ORGANEBAU
Mae'r meysydd a astudir yn cynnwys: y system arennol, y system nerfol, micro-bioleg a'r system imiwnedd.
Arholiad ysgrifenedig: Cymysgedd o gwestiynau atebion byr, cwestiynau wedi'u strwythuro, ysgrifennu estynedig a chwestiynau ymateb i ddata, gyda rhai mewn cyd-destun ymarferol.
Uned 3: ASESIAD YMARFEROL
Asesiad ymarferol a gynhelir yn y coleg.
Cost
Ffi dysgu o £80. Ffi arholiad o £40. Mae consesiynau ar gael. Uwchlwythwch dystiolaeth ar gyfer y consesiwn pan fyddwch yn cofrestru ar-lein.
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn, ond argymhellir dealltwriaeth dda ynghylch cysyniadau gwyddoniaeth sylfaenol.
Os nad ydych chi wedi sefyll yr arholiad o'r blaen, neu wedi'i sefyll ers talwm, bydd eich tiwtor yn cael sgwrs gyda chi i benderfynu a yw'r cwrs hwn yr un cywir ar eich cyfer chi.
Cyflwyniad
Addysgu wyneb yn wyneb
Trafodaethau
Gwaith grŵp
Gosodir gwaith cartref yn rheolaidd
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Dau arholiad ysgrifenedig ac asesiad ymarferol.
Dilyniant
Gallech ddewis un o blith amryw o gyrsiau gwahanol sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach), Rhan amser
Lefel:
2