TGAU Llenyddiaeth Saesneg
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
30 wythnos, 3 awr yr wythnos
TGAU Llenyddiaeth SaesnegRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi astudio amrywiaeth o destunau llenyddol? Hoffech chi feithrin sgiliau dadansoddi a gwerthfawrogi beirniadol?
Ar y cwrs hwn, cewch astudio gweithiau llenyddol pwysig. Bydd hefyd yn meithrin eich sgiliau fel darllenydd a beirniad llenyddol gwybodus ac annibynnol.
Felly, os ydych yn ddarllenwr brwd ac yn mwynhau trafod, ymunwch yn y ddadl a dewch i astudio Llenyddiaeth Saesneg!
At bwy mae'r cwrs wedi'i anelu?
Unrhyw un â diddordeb mewn cael cymhwyster TGAU neu'n dymuno gwella'u gradd flaenorol yn y pwnc, neu unrhyw un sydd am astudio testunau llenyddol allweddol.
Meysydd Allweddol y byddwch yn eu hastudio:
Cerddi cyfoes
Beirdd Cymreig sy'n ysgrifennu yn y Saesneg.
Rhyddiaith o wahanol ddiwylliannau,
Un ddrama Shakespeare,
Drama gyfoes a rhyddiaith nad yw'n gyfoes
Gofynion mynediad
Rhaid i ymgeiswyr ddangos diddordeb mewn ac angerdd at lenyddiaeth.
Cyflwyniad
Dysgu yn y dosbarth
Trafodaethau
Darllen ac ysgrifennu dadansoddol
Ymchwilio’n annibynnol
Gwaith grŵp
Dadlau
Gosodir gwaith cartref yn rheolaidd
Asesiad
Dau asesiad di-arholiad a dau bapur arholiad.
Dilyniant
Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
2
Dwyieithog:
n/a