TGAU Mathemateg
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
30 wythnos, 3 awr yr wythnos
TGAU MathemategRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bydd llawer o brifysgolion a chyflogwyr yn disgwyl i chi gael TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg. Os na chawsoch y cymhwyster hwn yn yr ysgol, bydd Grŵp Llandrillo Menai'n rhoi cyfle i chi wella'ch gradd er mwyn i chi allu mynd ymlaen i ddilyn rhaglen addysg bellach neu addysg uwch addas neu i swydd.
Neu mae'n bosibl eich bod am astudio Mathemateg am eich bod yn mwynhau dysgu ac wrth eich bodd gyda'r pwnc? Bydd croeso i chi ar ein cwrs!
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng TGAU Mathemateg - Rhifedd a TGAU Mathemateg?
- Bydd TGAU Mathemateg - Rhifedd yn asesu'r fathemateg y bydd arnoch chi angen ei defnyddio mewn bywyd bob dydd ac yn y byd gwaith
- Bydd TGAU Mathemateg yn ymestyn i'r agweddau Mathemateg sy'n ofynnol i fynd ymlaen i astudiaethau mathemategol, gwyddonol neu dechnegol pellach.
At bwy mae'r cwrs wedi'i anelu?
Unrhyw un â diddordeb mewn cael cymhwyster TGAU neu'n dymuno gwella'u gradd flaenorol yn y pwnc.
Meysydd Allweddol y byddwch yn eu hastudio:
Mae Mathemateg yn rhoi trosolwg ehangach o'i gymharu â Rhifedd. Dyma rai o'r pynciau a astudir: rhifau, algebra, graffiau, siapiau ac ystadegau.
Cost
Ffi dysgu o £80. Ffi arholiad o £40. Mae consesiynau ar gael. Uwchlwythwch dystiolaeth ar gyfer y consesiwn pan fyddwch yn cofrestru ar-lein.
Gofynion mynediad
Mae angen dealltwriaeth dda o gysyniadau mathemateg sylfaenol felly bydd angen cwblhau asesiad cyn i chi gofrestru. Os yw'n briodol, byddwn yn argymell cwrs gwahanol cyn i chi gofrestru ar gyfer TGAU.
Os nad ydych chi wedi sefyll yr arholiad o'r blaen, neu wedi'i sefyll ers talwm, bydd eich tiwtor yn cael sgwrs gyda chi i benderfynu a yw'r cwrs hwn yr un cywir ar eich cyfer chi.
Bydd disgwyl i ddysgwyr ddefnyddio e-bost, Google Classroon ac o bosibl adnoddau ar-lein eraill a fydd yn cefnogi eu dysgu. Darperir cymorth i gael mynediad i'r rhain.
Cyflwyniad
Cynigir cyrsiau wyneb yn wyneb ac ar-lein
Trafodaethau
Ymchwilio’n annibynnol
Gwaith grŵp
Gosodir gwaith cartref yn rheolaidd
Asesiad
Dau arholiad ysgrifenedig (un gyda chyfrifiannell ac un heb gyfrifiannell)
Dilyniant
Gallech ddewis un o blith amryw o gyrsiau gwahanol sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser, Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
2
Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :
- Llangefni