TGAU Mathemateg (Rhifedd)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele, Bangor, Online
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
30 wythnos, 3 awr yr wythnos
TGAU Mathemateg (Rhifedd)Rhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bydd llawer o brifysgolion a chyflogwyr yn disgwyl i chi gael TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg - Rhifedd. Os na chawsoch y cymhwyster hwn yn yr ysgol, bydd Grŵp Llandrillo Menai'n rhoi cyfle i chi wella'ch gradd er mwyn i chi allu mynd ymlaen i ddilyn rhaglen addysg bellach neu addysg uwch addas neu i swydd.
Neu mae'n bosibl eich bod am astudio Rhifedd am eich bod yn mwynhau dysgu ac wrth eich bodd gyda'r pwnc? Bydd croeso i chi ar ein cwrs!
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng TGAU Mathemateg - Rhifedd a TGAU Mathemateg?
- Bydd TGAU Mathemateg - Rhifedd yn asesu'r fathemateg y bydd arnoch chi angen ei defnyddio mewn bywyd bob dydd ac yn y byd gwaith
- Bydd TGAU Mathemateg yn ymestyn i'r agweddau mathemateg sy'n ofynnol i fynd ymlaen i astudiaethau mathemategol, gwyddonol neu dechnegol pellach.
At bwy mae'r cwrs wedi'i anelu?
Unrhyw un â diddordeb mewn cael cymhwyster TGAU neu'n dymuno gwella'u gradd flaenorol yn y pwnc.
Meysydd Allweddol y byddwch yn eu hastudio:
Edrychir ar nifer o feysydd yn ystod y cwrs, gyda'r cyfan yn cael eu hastudio mewn cyd-destun bywyd bob dydd. Bydd hyn yn cynnwys:
- Rhifau (e.e. Canrannau, cymarebau a chyfrannedd, biliau aelwyd a Threth Incwm
- Ystadegau (e.e. Siartiau, Graffiau, Cyfartaleddau a rhagor)
- Siapiau (e.e. Arwynebedd, Cyfaint, Unedau, Pythagoras a thrigonometreg sylfaenol)
- Algebra (e.e. Sut i ddefnyddio fformiwlâu a hafaliadau
Cost
Ffi dysgu o £80. Ffi arholiad o £40. Mae consesiynau ar gael. Uwchlwythwch dystiolaeth ar gyfer y consesiwn pan fyddwch yn cofrestru ar-lein.
Gofynion mynediad
Mae angen dealltwriaeth dda o gysyniadau mathemateg sylfaenol felly byddwch yn cwblhau asesiad cyn i chi gofrestru. Os yw'n briodol, byddwn yn argymell cwrs gwahanol cyn i chi gofrestru ar gyfer TGAU.
Os nad ydych wedi sefyll yr arholiad o'r blaen, neu os cafodd ei sefyll gryn amser yn ôl, bydd eich tiwtor yn cael sgwrs gyda chi i benderfynu a yw'r cwrs hwn yn iawn i chi.
Os hoffech astudio'r cwrs hwn ar-lein, mae angen y dechnoleg ganlynol:
- Gliniadur/Penbwrdd/Tabled
- Cysylltiad band eang sefydlog
- Bydd disgwyl i chi gael camera a siaradwr gweithredol i gyfrannu'n llawn yn y wers
Bydd disgwyl i ddysgwyr gael mynediad at e-byst, Google Classroom ac o bosibl offer ar-lein eraill a fydd yn cefnogi eu dysgu. Darperir cymorth i gael mynediad at y rhain.
Cyflwyniad
Cynigir cyrsiau wyneb yn wyneb ac ar-lein
Trafodaethau
Ymchwilio’n annibynnol
Gwaith grŵp
Gosodir gwaith cartref yn rheolaidd
Asesiad
Dau arholiad ysgrifenedig (un gyda chyfrifiannell ac un heb gyfrifiannell)
Dilyniant
Gallech ddewis un o blith amryw o gyrsiau gwahanol sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser, Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
2
Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :
- Llangefni
- Online