TGAU Cymraeg (Ail Iaith)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Online
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
30 wythnos, 3 awr yr wythnos
TGAU Cymraeg (Ail Iaith)Rhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn rhoi cyfleoedd i chi ddatblygu'ch sgiliau Cymraeg.
Bydd TGAU Cymraeg Ail Iaith yn eich cynorthwyo chi i ddeall a defnyddio Cymraeg mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Byddwch yn datblygu sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu fydd yn eich galluogi i ddefnyddio'r Gymraeg yn hyderus yn eich bywyd personol a'ch bywyd proffesiynol. Mae galw cynyddol am sgiliau Cymraeg fel sgil cyflogadwyedd; mae llawer o gyflogwyr yn gwerthfawrogi sgiliau dwyieithrwydd yn eu gweithlu ac mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg yn hanfodol mewn rhai sectorau.
At bwy mae'r cwrs wedi'i anelu?
Unrhyw un â diddordeb mewn cael cymhwyster TGAU neu'n dymuno gwella'u gradd flaenorol yn y pwnc.
Efallai eich bod chi'n dymuno dysgu Cymraeg er mwyn helpu eich plant gyda'u gwaith cartref.
Efallai eich bod chi'n dymuno gwneud mwy yn eich cymuned leol, neu fedru sgwrsio gyda ffrindiau a chymdogion yn Gymraeg.
Neu efallai fod gennych chi awydd swydd newydd neu ddyrchafiad a bydd medru cyfathrebu yn Gymraeg yn rhoi mantais i chi.
Beth bynnag sydd wedi eich hysbrydoli i ddysgu Cymraeg, bydd astudio TGAU Cymraeg Ail Iaith yn rhoi cyfleoedd i chi feithrin ystod eang o sgiliau Cymraeg.
Meysydd Allweddol y byddwch yn eu hastudio:
Llafaredd: Byddwch yn datblygu eich sgiliau siarad a gwrando trwy gydol y cwrs, mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.
Byddwch yn cael eich asesu'n gwneud cyflwyniad neu sgwrs a byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp. Cofnodir y rhain gan eich tiwtor.
Darllen ac Ysgrifennu: Byddwch yn datblygu eich gallu i ysgrifennu ar gyfer amrediad o ddibenion a chynulleidfaoedd.
Cost
Ffi dysgu o £80. Ffi arholiad o £40. Mae consesiynau ar gael. Uwchlwythwch dystiolaeth ar gyfer y consesiwn pan fyddwch yn cofrestru ar-lein.
Gofynion mynediad
Mae angen dealltwriaeth dda o Gymraeg sylfaenol a fydd yn cael ei asesu cyn i chi gofrestru. Os yw'n briodol, byddwn yn argymell cwrs gwahanol cyn i chi gofrestru ar gyfer TGAU.
Os nad ydych chi wedi sefyll yr arholiad o'r blaen, neu wedi'i sefyll ers talwm, bydd eich tiwtor yn cael sgwrs gyda chi i benderfynu a yw'r cwrs hwn yr un cywir ar eich cyfer chi.
Mae'r dechnoleg ganlynol yn ofynnol:
- Gliniadur/ Cyfrifiadur Personol / Dyfais tabled
- Cysylltiad band eang sefydlog
- Bydd disgwyl i chi gael camera a siaradwr gweithredol i gyfrannu'n llawn yn y wers
Bydd disgwyl i ddysgwyr ddefnyddio e-bost, Google Classroon ac o bosibl adnoddau ar-lein eraill a fydd yn cefnogi eu dysgu. Darperir cymorth i gael mynediad i'r rhain.
Ar gyfer dosbarthiadau ar-lein:
Rhaid i chi fyw o fewn mynediad rhwydd i gampws Llandrillo yn Rhos neu Fangor gan y bydd angen i chi fynychu campws i gynnal eich asesiadau a'ch arholiadau.
Cyflwyniad
Dysgu ar-lein
Trafodaethau
Gwaith grŵp
Dadlau
Gosodir gwaith cartref yn rheolaidd
Asesiad
Dau arholiad ysgrifenedig ac asesiad llafaredd
Dilyniant
Gallech ddewis un o blith amryw o gyrsiau gwahanol sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser, Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
2
Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :
- Online