Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Lefel 1
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
1 Blwyddyn
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Lefel 1Llawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Cwrs rhagarweiniol yw hwn sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n gadael yr ysgol ac am weithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol neu ofal plant. Mae'r cwrs yn cynnig unedau rhagarweiniol ar amrywiaeth o bynciau sy'n rhoi cipolwg ar brif ofynion gweithiwr proffesiynol ym maes iechyd/gofal cymdeithasol/gofal plant.
Mae gyrfaoedd yn y sector iechyd, cymdeithasol a datblygu plant yn cynnwys rhoi eraill o'r blaen ein hunain a defnyddio'ch sgiliau i gadw eraill yn ddiogel ac yn iach.
Bydd y cwrs yn eich helpu chi datblygu eich dealltwriaeth o'r meysydd damcaniaethol, cyfreithiol, seicolegol, cymdeithasol ac addysgol egwyddorion sy'n sail i weithio'n effeithiol i ofalu, cefnogi, grymuso a datblygu eraill.
Mae'r cwrs yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu a'ch dealltwriaeth o weithio gydag unigolion amrywiol a bregus yn aml. Bydd y cwrs hefyd yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudio llwyddiannus a symud ymlaen i gymwysterau lefel uwch. Yn ystod y rhaglen byddwch hefyd yn meithrin eich dealltwriaeth o'r ystod o yrfaoedd yn y sector hwn.
Mae mynychu Digwyddiad Agored gyda ni yn rhoi cyfle i chi ddarganfod mwy am weithio yn y maes a'r ystod eang o yrfaoedd y gall y cwrs cychwynnol hwn eich arwain atynt. Byddwch yn gallu gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cwrs, bywyd yn y coleg, neu weithio ym maes iechyd, sectorau cymdeithasol, neu ddatblygiad plant, gofal ac addysg.
Iechyd a Gofal Cymdeithasol/Gofal Plant:
Er mwyn eich cefnogi chi ar hyd y ffordd, mae'r unedau a astudiwyd yn cynnwys bod yn drefnus, datblygu a gwneud cynllun dilyniant personol, gweithio gydag eraill, ymchwilio i bwnc ac ystod o'r rhestr ganlynol:
- Cynllunio amgylchedd gofal plant diogel
- Cefnogi dysgu plant drwy brofiadau pob dydd
- Sgiliau cyfathrebu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Yr Iaith Gymraeg mewn meithrinfeydd ar gyfer Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar (cyfarchion, anghenion, rhifau, lliwiau, mynegiant o fwriad, dyddiau'r wythnos)
- Cyflwyniad i Iechyd
- Chwarae a datblygiad plant
- Cael pobl i gymryd rhan mewn gweithgaredd egnïol
- Cadw'n egnïol a iach
- Deall y gwasanaethau a'r swyddi amrywiol sydd i'w cael yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gwneud byrbrydau iach
- Sgiliau cyflwyno rhyngweithiol
- Gweithgareddau Creadigol
- Cynllunio a chynnal gweithgareddau creadigol
- Gofalu am fabanod - anghenion gofal personol
Byddwch yn cael tiwtor personol a fydd yn eich cefnogi gyda'ch cynnydd personol ac academaidd trwy gydol eich amser yn y coleg.
Gofynion mynediad
4 TGAU gradd A* - E, yn cynnwys Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg neu Rifedd. Rhaid i ymgeiswyr ddangos bod ganddynt y gallu i weithio'n annibynnol ac yn ddiogel mewn gweithleoedd.
Efallai y bydd eich rhaglen yn gofyn i chi ddod i gyfweliad, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hynny.
Cyflwyniad
Byddwch yn gwneud cyfres o unedau sy'n seiliedig ar aseiniadau. Nid oes elfen arholiad i'r cwrs ond bydd rhai aseiniadau/tasgau yn cael eu graddio er mwyn helpu i ddatblygu eich sgiliau arholiad a chefnogi eich dilyniant i'r lefel nesaf.
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Trafodaethau
- Astudiaethau achos
- Ymweliadau allanol
- Dysgu rhyngweithiol
- Astudio yn eich amser eich hun
- Gwaith grŵp
- Amgylchedd dysgu rhithwir
- Profion
- Atebion ysgrifenedig byr a hir
- Cyflwyniadau
- Chwarae rôl/asesiadau ymarferol
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Gwaith cwrs
- Aseiniadau grŵp
- Proffil myfyriwr
- Cyflwyniadau
- Chwarae rôl
- Arsylwi
Dilyniant
Mae'r cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ar gyfer cwrs Gofal Cymdeithasol neu Ofal Plant / Datblygiad Plant, neu gwrs prentisiaeth.
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, fe allech chi symud ymlaen i nifer o raglenni, gan gynnwys:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol: (Oedolion, Plant a Phobl ifanc) Lefel 2
- Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Efallai y byddwch hefyd yn ystyried gwaith, yn dibynnu ar y cyfleoedd sydd ar gael. Gall hyn fod yn gyflogedig neu wirfoddol.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
- Children’s Development & Education
Dwyieithog:
Llangefni
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Children’s Development & Education
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Children’s Development & Education