Cynnal a Chadw Cerbydau Trwm Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Cynnal a Chadw Cerbydau Trwm Lefel 2Llawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Os hoffech chi fod yn fecanic neu dechnegydd sy'n gweithio gyda lorïau neu fysiau a'ch bod eisoes wedi cwblhau'r Cwrs Sylfaen Lefel 1, yna fe allai'r cwrs Lefel 2 mewn Trin a Thrwsio Cerbydau Trwm fod yn addas i chi.
Cynlluniwyd y cwrs Lefel 2 hwn i adeiladu ar y sgiliau technegol a'r wybodaeth academaidd a ddysgoch ar y cwrs Lefel 1. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar ddysgu'n ymarferol mewn gweithdai. Mae'n codi eich sgiliau i lefel y diwydiant ac yn eich paratoi i fod yn fecanic neu dechnegydd sy'n gweithio gyda lorïau.
Peirianneg Uwch (gyda lleoliad mewn diwydiant:
Yn ogystal â dilyn y cwrs, mae'n ofynnol eich bod yn cael profiad gwaith am o leiaf 150 awr yn ystod y flwyddyn, fel arfer am ddiwrnod yr wythnos. Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn meithrin y wybodaeth a'r sgiliau galwedigaethol sydd eu hangen a mynd ymlaen i brentisiaeth neu gwrs Lefel 3 mewn Trwsio Cerbydau Modur.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn, bydd angen i chi:
- Fod wedi cwblhau'r cwrs Trin a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 1 NEU
- Fod â chefndir academaidd da a phrofiad perthnasol mewn diwydiant NEU
- Fod wedi ennill cymhwyster estynedig Lefel 2 mewn Peirianneg (gyda lleoliad mewn diwydiant)
- Bod wedi ennill 4 TGAU A*-C, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg – gyda diddordeb mawr mewn peirianneg ac awydd cryf i weithio yn y diwydiant. (Asesir mewn cyfweliad)
Mae'r broses ymgeisio yn cynnwys cyfweliad a fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs, eich profiad blaenorol ac unrhyw hyfforddiant neu gymwysterau a all fod gennych.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd a hyfforddiant dan oruchwyliaeth hyfforddwr i feithrin gwybodaeth greiddiol
- Arddangosiadau ymarferol
- Tasgau gwaith realistig
- Aseiniadau
- Dysgu ar-lein ac o bell
- Ymweliadau â Diwydiannau a Ffeiriau Masnach
Mae'r pum gweithdy ar gampws Llangefni'n cynnwys yr offer safonol diweddaraf a ddefnyddir gan y diwydiant i wneud gwaith diagnosteg a chynnal a chadw ar geir, faniau, loriau a thryciau. Mae'r offer yn cynnwys: Dynamometr dwy olwyn ar roleri, ramp MOT ATL 4 postyn llawn, laser alinio 4 olwyn, y sganwyr a'r sgopau diagnosteg diweddaraf ar gyfer cerbydau ysgafn a thrwm, rig hybrid, labordy awtotroneg a chyfleusterau aerdymheru.
Mae'r holl staff wedi'u hyfforddi yn y diwydiant.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Asesiadau ymarferol mewnol
- Asesiadau ar-lein
- Cwestiynau llafar
- Cwestiynau ysgrifenedig
- Taflenni tasgau byr i ddysgwyr eu cwblhau'n annibynnol
Dilyniant
Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn rhoi i chi'r sgiliau sylfaenol a'r wybodaeth i:
- fod yn fecanic neu dechnegydd lorïau neu fws
- gwneud cais am brentisiaeth (Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Trwm))
- gwneud cais i ddilyn y cwrs Lefel 3 Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
2
Dwyieithog:
n/a