Prentisiaeth Uwch – Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    24 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth Uwch – Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn lleoliadau iechyd neu ofal cymdeithasol.

Nod y cymhwyster hwn yw datblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, yr ymddygiadau a’r sgiliau sy’n sail i Ymarfer Proffesiynol yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad agos â rhanddeiliaid allweddol yn y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Gofynion mynediad

  • Rhaid i ddysgwyr gael eu cyflogi mewn rôl addas mewn lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
  • TGAU - graddau C neu uwch (neu raddau cyfatebol) mewn Saesneg / Cymraeg a Mathemateg. Efallai y bydd gofyn i ddysgwyr heb y graddau hyn uwchsgilio yn gyntaf a bydd angen iddynt gwblhau cymwysterau sgiliau hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed o leiaf i ddilyn y cymhwyster hwn.

Mae'r cymhwyster hwn yn darparu dilyniant ar gyfer dysgwyr sydd wedi cwblhau unrhyw un o'r cymwysterau canlynol:

  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc).

Cyflwyniad

Mae'r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ac mae'n asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr ar sail un i un.

Asesiad

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'n llwyddiannus:

  • portffolio o dystiolaeth
  • prosiect, sy'n cynnwys cyfres o dasgau ysgrifenedig, arsylwi ymarfer yn uniongyrchol a thrafodaeth broffesiynol

Mae'r asesiadau wedi'u cynllunio i ymgeiswyr ddangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau o'r unedau gorfodol a chynnwys eu llwybr dewisol. Mae'r asesiadau'n ymdrin ag ystod o elfennau ysgrifenedig i adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth, yn ogystal ag elfennau ymarfer sy'n cynnwys arsylwi ymarfer dysgwyr yn uniongyrchol i gadarnhau eu cymhwysedd yn y sgiliau ymarferol sy'n ofynnol ar gyfer cynnwys eu llwybr dewisol.

Dilyniant

Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen o fewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach ar lefel uwch.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Dwyieithog:

Darpariaeth dwyieithog ar gael

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Myfyrwyr yn gweithio mewn ystafell ddosbarth