Dyfarniad Lefel 3 mewn Rheoli Alergenau Bwyd
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 diwrnod Cost: £130
Dyfarniad Lefel 3 mewn Rheoli Alergenau BwydCyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cymhwyster hwn wedi ei anelu at ddysgwyr sy'n gyfrifol am brynu, cludo, cynhyrchu a gweini bwyd yn y diwydiant arlwyo. Mae hefyd yn addas ar gyfer pobl sy'n rhedeg busnesau arlwyo bach neu ganolig.
Dyddiadau Cwrs
Coleg Llandrillo, Abergele
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
07/05/2025 | 09:00 | Dydd Mercher | 7.00 | 1 | £130 | 0 / 12 | D0009420 |
Gofynion mynediad
Mae'r cymhwyster hwn yn addas i ddysgwyr 16 oed a throsodd. Argymhellir bod gan ddysgwyr Lefel 2 o leiaf mewn llythrennedd a rhifedd, neu gymwysterau cyfwerth.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfrwng sesiwn addysgu sy'n cynnwys gwaith unigol a gwaith grŵp
Asesiad
Ar ddiwedd y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfrwng papur arholiad amlddewis. Mae'r dull asesu hwn yn gofyn i ddysgwyr ddewis 1 o blith nifer o atebion posibl i'r cwestiynau a ofynnir. Mae'r arholiad yn cynnwys 30 o gwestiynau a rhaid cwblhau'r papur mewn awr. I gael gradd Llwyddo, rhaid ateb 18 allan o'r 30 cwestiwn yn gywir (60%). Bydd dysgwyr yn cael gradd Rhagoriaeth os byddant yn ateb o leiaf 24 allan o'r 30 cwestiwn yn gywir (80%).
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, os ydynt yn dymuno, gall dysgwyr barhau â'u datblygiad drwy gwblhau un o'r cymwysterau/cyrsiau hyfforddi a ganlyn:
Cymwysterau Lefel 3 a 4 Highfield ym maes Diogelwch Bwyd
Cymwysterau Lefel 3 HACCP Highfield
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
3
Dwyieithog:
n/a