Dyfarniad Highfield Lefel 4 Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo, Gweithgynhyrchu neu Fanwerthu
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele, Canolfan Technoleg Bwyd, Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
5 diwrnod (dim yn cynnwys yr arholiad)
Cost: £285
Dyfarniad Highfield Lefel 4 Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo, Gweithgynhyrchu neu FanwerthuCyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r gyfraith yn nodi bod angen i'r rhai sy'n trin bwyd gael eu hyfforddi yn unol â'u gweithgareddau trin bwyd yn y gwaith. Os bydd gweithiwr yn cyflawni cymhwyster diogelwch bwyd Highfield, sy'n addas ar gyfer y gwaith maent yn eu gwneud, bydd yn helpu'r gweithredwyr busnes bwyd i brofi eu bod wedi dangos diwydrwydd ac felly'n ufudd yng ngolwg y gyfraith. Gall amgylcheddau cyffredin gynnwys tafarndai, gwestai, bwytai, mannau adwerthu, ffatrïoedd, arlwyo i gontract, bwytai prydau cyflym , ysbytai, cartrefi preswyl a nyrsio, ysgolion, carchardai a'r lluoedd arfog.
Diogelwch Bwyd Lefel 4 - sicrhau bod rheolwyr yn ymwybodol o'r gweithdrefnau a'r safonau angenrheidiol i sicrhau bod bwyd yn cael ei weini o hyd a bod diwydrwydd yn cael ei gynnal.
Mae'r cymhwyster hwn wedi ei anelu at
- unigolion sydd eisoes yn gweithio yn y maes gweithgynhyrchu ac mewn amgylchedd arlwyo bwyd neu ddiod
- Rheiny sy'n paratoi i weithio yn y diwydiant,
- Rheiny y mae gofyn iddynt gael ychydig o gyfrifoldeb dros ddiogelwch bwyd yn eu swydd ac yn debygol o gael cyfrifoldebau rheoli dros dîm gweithredol.
Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn ennill y Dyfarniadau canlynol ( Dylai ymgeiswyr nodi pa ddyfarniad y dymunant ei gwblhau wrth wneud cais am y cwrs ) :
Dyfarniad Lefel 4 Highfield mewn Rheoli Diogelwch Bwyd ym maes Gweithgynhyrchu Bwyd
Dyfarniad Lefel 4 Highfield mewn Rheoli Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo
Pynciau
- Sut y gall gweithredwyr busnesau bwyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda deddfau diogelwch bwyd,
- Gofynion gweithredol angenrheidiol i sicrhau diogelwch bwyd,
- Sut i sefydlu gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd,
- Y rheoliadau angenrheidiol ar gyfer diogelwch bwyd
- Sut i gynnal gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
- Arferion hylendid da
Mae'r cwrs yn cynnwys cymysgedd o gyflwyniadau tiwtor, ymarferiadau byr, ac astudiaeth achos gyda digon o drafodaethau.
Dyddiadau Cwrs
Busnes@Abergele
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
04/02/2025 | 09:00 | Dydd Mawrth, Dydd Mercher | 42.00 | 6 | £285 | 1 / 12 | D0005173 |
Coleg Menai, Llangefni
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
04/02/2025 | 09:00 | Dydd Mawrth, Dydd Iau | 42.00 | 5 | £285 | 0 / 12 | FTC00074 |
Gofynion mynediad
Dyfarniad Lefel 3 mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo neu gymhwyster cyfwerth.
Cyflwyniad
- Sesiynau a addysgir
- Gwaith grŵp
Asesiad
Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei asesu gan arholiad aml-ddewis ac arholiad ysgrifenedig.
Dilyniant
Ar gyfer rhagor o lwybrau dysgu dilynol, cysylltwch yn uniongyrchol â'r Ganolfan Technoleg Bwyd..
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
4
Maes rhaglen:
- Cynhyrchu Bwyd
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Llangefni