Diploma Lefel 2 mewn Lletygarwch
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
12-18 mis
Diploma Lefel 2 mewn LletygarwchRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Os ydych yn gweithio yn y Diwydiant Lletygarwch ac yn ceisio darparu'r cymorth gorau posib, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd anodd a chymhleth, ac os ydych wastad yn chwilio am ffyrdd i wella'ch perfformiad er mwyn i'r sefydliad barhau'n gystadleuol, dyma'r cwrs i chi.
Gofynion mynediad
- Cyflogaeth ym maes lletygarwch.
Cyflwyniad
Caiff cynllun dysgu unigol ei lunio mewn ymgynghoriad â chi a'ch rheolwr, a bydd asesydd yn ymweld â chi'n rheolaidd yn y gweithle. Byddwch yn creu portffolio o dystiolaeth i ddangos sut yr ydych yn bodloni'r Safonau Cenedlaethol yn eich gwaith bob dydd, ac i ddangos eich bod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth berthnasol.
Asesiad
Byddwch yn cyflwyno tystiolaeth o sefyllfaoedd gwaith y gwnaethoch ddelio â hwy i'ch asesydd. Gall y dystiolaeth gynnwys :
- Astudiaethau achos
- Cwestiynau ac atebion
- Trafodaethau
- Negeseuon e-bost neu lythyrau i gefnogi'ch tystiolaeth ysgrifenedig
- Tystiolaeth tystion gan eich cydweithwyr neu'ch rheolwr llinell
Bydd eich llyfrau gwaith yn ogystal â'r gwaith ymarferol a wnewch tuag at eich NVQ yn cael eu marcio gan asesydd yn y gweithle a'u safoni gan y dilysydd mewnol.
Dilyniant
Mae cyfleoedd gwych ar gael i fynd ymlaen i ddilyn Diploma NVQ mewn Lletygarwch (Lefel 3).
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
2
Dwyieithog:
n/a