Cyflwyniad i Sgiliau Gwnïo: Hanfodion Gwnïo
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Lleoliad Cymunedol
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 awr
Cyflwyniad i Sgiliau Gwnïo: Hanfodion Gwnïo
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae gwnïo yn defnyddio rhifedd bob dydd mewn sawl ffordd wahanol a fydd yn helpu dysgwyr i gryfhau eu sgiliau mathemateg bob dydd. Trwy ddefnyddio tâp mesur a throsi rhwng modfeddi a chentimetrau, neu ddefnyddio medryddion gwnïo ac asesu tensiwn mewn peiriant gwnïo, bydd dysgwyr yn gadael y sesiynau'n teimlo'n llawer mwy hyderus yn eu galluoedd gwnïo a'u sgiliau mathemateg.
Dros bedair wythnos, bydd dysgwyr yn dysgu sut i osod peiriant gwnïo a chyfrifo’r tensiwn cywir ar gyfer trwch yr edau, sut i hemio trowsus a llewys, mesur tyllau botymau i osod botymau a sut i greu bag siopa tote gan ddefnyddio’r sgiliau maen nhw wedi’u dysgu .
Gofynion mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:
- fod yn 19 oed neu'n hŷn;
- yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Cyflwyniad
Sesiynau grŵp bach cyfeillgar
Asesiad
Dim.
Dilyniant
Cyrsiau mathemateg pellach
Mwy o wybodaeth
Lefel:
0
Maes rhaglen:
- Multiply