Sgiliau Gwaith Coed a Rhifedd Ymarferol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Lleoliad Cymunedol
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 awr
Sgiliau Gwaith Coed a Rhifedd Ymarferol
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ymunwch â ni gwblhau prosiectau gwaith coed bach fel blychau offer, tai adar ac ati, drwy gyfuno gwersi theori â'r cyfle i gymhwyso'ch gwybodaeth mewn ffordd ymarferol.
Meddyliwch am syniadau am brosiectau, dysgwch a chymhwyswch y cysyniadau mathemategol sydd eu hangen ar gyfer pob prosiect gan gynnwys mesuriadau, onglau, cyfrifiadau arwynebedd a pherimedr, ffracsiynau, a rhifyddeg sylfaenol. Bydd y cwrs hwn yn ymarferol, gan sicrhau eich bod nid yn unig yn deall y theori ond hefyd yn gallu ei chymhwyso mewn lleoliadau a sefyllfaoedd ymarferol.
Bydd yr holl ddeunyddiau ac offer angenrheidiol yn cael eu darparu, a byddwch yn mynd â'r holl brosiectau a gwblhawyd gennych adref.
Gofynion mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:
- fod yn 19 oed neu'n hŷn;
- yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Cyflwyniad
Sesiynau grŵp bach cyfeillgar
Asesiad
Dim.
Dilyniant
Cyrsiau mathemateg pellach
Mwy o wybodaeth
Lefel:
0
Maes rhaglen:
- Multiply