Gwneud Mwg neu Pot: Rhifau y tu ôl i Serameg

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Parc Menai
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    18 awr

Gwnewch gais
×

Gwneud Mwg neu Pot: Rhifau y tu ôl i Serameg

Coleg Menai, Parc Menai
Dydd Llun, 11/11/2024

Disgrifiad o'r Cwrs

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn serameg a erioed wedi cael cyfle i roi cynnig arni, dyma'ch cyfle! Bydd y cwrs ymarferol byr hwn yn gyflwyniad i'r defnydd o glai i greu mwg/potiau wedi'u gwneud â llaw. Bydd yn eich galluogi i ddeall sut i fesur y swm cywir o glai, creu'r mygiau/potiau, a phenderfynu sut i danio'r rhain yn yr odyn, ac yna eu gwydro. Bydd yr holl ddeunyddiau ac offer yn cael eu darparu. Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn falch o arddangos eich mygiau/potiau gorffenedig!

Gofynion mynediad

I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:

  • fod yn 19 oed neu'n hŷn;
  • yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.

Cyflwyniad

Sesiynau grŵp bach cyfeillgar

Asesiad

Dim.

Dilyniant

Yn dilyn y cwrs Lluosi, mae Potensial (Dysgu Gydol Oes) yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth. Darganfyddwch fwy yma - https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/potensial-dysgu-gydol-oes

Mwy o wybodaeth

Lefel: 0

Maes rhaglen:

  • Multiply