Gwneud Dilledyn: Rhifau tu ôl i Decstilau

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Parc Menai
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    18 awr

Gwnewch gais
×

Gwneud Dilledyn: Rhifau tu ôl i Decstilau

Coleg Menai, Parc Menai
Dydd Gwener, 15/11/2024

Disgrifiad o'r Cwrs

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn dysgu sut i greu dilledyn o'r newydd, gan ddefnyddio patrwm. Cewch gyflwyniad i sgiliau gwnïo at ddiben ymarferol, o fesur, torri, i'r dilledyn terfynol. Bydd yr holl ddeunydd yn cael ei ddarparu, a bydd y technegau a ddysgir yn gallu cael eu defnyddio ar gyfer creu eich dillad eich hun yn y dyfodol. O bosib bydd sioe ffasiwn ar gyfer eich cyd-ddysgwyr ar ddiwedd y cwrs!

Gofynion mynediad

I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:

  • fod yn 19 oed neu'n hŷn;
  • yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.

Cyflwyniad

Sesiynau grŵp bach cyfeillgar

Asesiad

Dim.

Dilyniant

Yn dilyn y cwrs Lluosi, mae Potensial (Dysgu Gydol Oes) yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth. Darganfyddwch fwy yma - https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/potensial-dysgu-gydol-oes

Mwy o wybodaeth

Lefel: 0

Maes rhaglen:

  • Multiply