Crefftau iasol: Boddhad mewn Blodau ar Galan Gaeaf

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Lleoliad Cymunedol
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 awr

Gwnewch gais
×

Crefftau iasol: Boddhad mewn Blodau ar Galan Gaeaf

HWB Dinbych
Dydd Mawrth, 29/10/2024

Disgrifiad o'r Cwrs

Ymunwch â ni mewn Dosbarth Trefnu Blodau Calan Gaeaf arswydus, lle byddwch chi'n creu trefniant hydrefol ac yn cynnau eich creadigrwydd! Yn addas ar gyfer pob lefel o sgiliau, bydd y digwyddiad hwyliog hwn yn eich arwain trwy dechnegau gosod blodau a'r cyfrifiadau fydd eu hangen arnoch i wneud eich trefniant hudolus eich hun ar thema Calan Gaeaf. Cewch fynd a'ch gwaith adref gyda chi i'w arddangos. Peidiwch â cholli'r cyfle unigryw hwn i ddangos eich creadigrwydd!

Gofynion mynediad

I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:

  • fod yn 19 oed neu'n hŷn;
  • yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.

Cyflwyniad

Sesiynau grŵp bach cyfeillgar

Asesiad

Dim.

Dilyniant

Yn dilyn y cwrs Lluosi, mae Potensial (Dysgu Gydol Oes) yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth. Darganfyddwch fwy yma - https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/potensial-dysgu-gydol-oes

Mwy o wybodaeth

Lefel: 0

Maes rhaglen:

  • Multiply