Datrys Problemau Ceir: Meistroli Eich Amlfesurydd!

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    8 awr

Cofrestrwch
×

Datrys Problemau Ceir: Meistroli Eich Amlfesurydd!

Rhan amser

Coleg Llandrillo, Y Rhyl
Dydd Mercher, 27/11/2024
Coleg Llandrillo, Y Rhyl
Dydd Mercher, 18/12/2024

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs yn addas i bawb ac wedi'i deilwra ar gyfer oedolion (19+) sydd eisiau dysgu sut mae defnyddio amlfesuryddion digidol i ganfod diffygion mewn systemau trydanol mewn moduron. Bydd mynychwyr yn meithrin sgiliau ymarferol i fesur a phrofi cydrannau gwahanol sy'n golygu y gallwch ddod o hyd i broblemau mewn ceir yn effeithiol. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut mae dehongli darlleniadau amlfesuryddion a deall sut i adnabod cydrannau diffygiol drwy waith ymarferol. Bydd y cwrs yn cynnwys cysyniadau elfennol fel foltedd, cerrynt, gwrthiant a theori cylchedd sylfaenol a bydd hynny'n golygu bod mynychwyr gwbl hyderus wrth ddefnyddio amlfesuryddion mewn lleoliad â cherbydau modur.

Dyddiadau Cwrs

Coleg Llandrillo, Y Rhyl

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
27/11/202409:00 Dydd Mercher7.001 Am ddim0 / 8DEN44436

Coleg Llandrillo, Y Rhyl

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
18/12/202409:00 Dydd Mercher7.001 Am ddim0 / 8DEN44438

Gofynion mynediad

I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:

  • fod yn 19 oed neu'n hŷn;
  • yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.

Cyflwyniad

Sesiynau grŵp bach cyfeillgar

Asesiad

Dim.

Dilyniant

Yn dilyn y cwrs Lluosi, mae Potensial (Dysgu Gydol Oes) yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth. Darganfyddwch fwy yma - https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/potensial-dysgu-gydol-oes

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: 0

Maes rhaglen:

  • Multiply