Creadigaethau Clai Calan Gaeaf
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Lleoliad Cymunedol
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 awr
Creadigaethau Clai Calan GaeafRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Yn y gweithdy hwyliog hwn, bydd cyfranogwyr yn camu i fyd clai, gan greu eu cerfluniau arswydus a chymeriadau Calan Gaeaf eu hunain. O ysbrydion direidus i angenfilod arswydus, does dim terfyn ar eich dychymyg! Dysgwch dechnegau clai hanfodol wrth gael hwyl yn baeddu eich dwylo. Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle gwych i archwilio'ch talentau artistig a chreu addurniadau unigryw i fynd adref gyda chi. Mae’r dull hwyliog, creadigol hwn yn ffordd o fagu hyder y cyfranogwyr i gymhwyso eu sgiliau rhifedd mewn sefyllfaoedd byd go iawn.
Gofynion mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:
- fod yn 19 oed neu'n hŷn;
- yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Cyflwyniad
Sesiynau grŵp bach cyfeillgar
Asesiad
Dim.
Dilyniant
Yn dilyn y cwrs Lluosi, mae Potensial (Dysgu Gydol Oes) yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth. Darganfyddwch fwy yma - https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/potensial-dysgu-gydol-oes
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
0
Maes rhaglen:
- Multiply