Ystafell Ddianc: Datrys Dirgelwch Mathemateg Calan Gaeaf
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Lleoliad Cymunedol
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 awr
Ystafell Ddianc: Datrys Dirgelwch Mathemateg Calan Gaeaf
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ymunwch â ni yn ystod hanner tymor mis Hydref i roi eich sgiliau datrys problemau ar brawf! Bydd y cyfranogwyr yn camu i leoliad iasol sy'n llawn cliwiau a phosau dirgel. Dim ond drwy ddefnyddio sgiliau mathemateg y gellir eu datrys. Byddwch yn hogi eich sgiliau rhifedd a'ch sgiliau meddwl yn feirniadol mewn ffordd hwyliog. Mae'r profiad gwefreiddiol hwn yn addo cyffro, gwaith tîm, ac ambell syrpreis ar hyd y ffordd, ac yn berffaith ar gyfer rhai sy'n dyheu am ddirgelwch. Peidiwch â cholli'r cyfle i ddianc o'r ystafell ysbrydion cyn i'r amser ddod i ben. Yn y wers un tro hon bydd dysgwyr yn cymhwyso eu sgiliau mathemateg hanfodol i ddatrys posau a magu hyder yn eu galluoedd mathemateg.
Gofynion mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:
- fod yn 19 oed neu'n hŷn;
- yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Cyflwyniad
Sesiynau grŵp bach cyfeillgar
Asesiad
Dim.
Dilyniant
Yn dilyn y cwrs Lluosi, mae Potensial (Dysgu Gydol Oes) yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth. Darganfyddwch fwy yma - https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/potensial-dysgu-gydol-oes
Mwy o wybodaeth
Lefel:
0
Maes rhaglen:
- Multiply