Ysbrydoli Crefft: Gwneud Crefftau yn Ysbryd Calan Gaeaf!

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Lleoliad Cymunedol
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 awr

Gwnewch gais
×

Ysbrydoli Crefft: Gwneud Crefftau yn Ysbryd Calan Gaeaf!

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae YSBRYDoli Crefft yn gwrs crefft un tro ar thema Calan Gaeaf lle mae creadigrwydd yn cael ei YSBRYDoli! Mae YSBRYDoli Crefft yn gwrs crefft un tro ar thema Calan Gaeaf lle mae creadigrwydd yn cael ei YSBRYDoli! ⁠ Yn y gweithdy hwn, byddwch yn dysgu sut i greu addurniadau hudolus a danteithion dieflig, o lusernau a garlantau iasol i fygydau a bwydydd bwganod. Gyda chyfarwyddyd manwl a'r holl ddeunyddiau wedi'u darparu, byddwch yn gwireddu'ch potensial fel artist tra'n mwynhau mynd i ysbryd y diwrnod. P'un a ydych chi'n ddechreuwr neu'n grefftwr profiadol, dewch yn barod i greu, a chonsurio ychydig o hud Calan Gaeaf! Bydd y dysgwyr yn cyfrif, ac yn cynllunio eu prosiectau, byddant yn ymarfer cysyniadau mathemateg pwysig fel adio a mesur mewn ffordd ymarferol hwyliog. Bydd y cwrs hwn yn berffaith ar gyfer rhieni sy'n chwilio am weithgaredd hwyliog, creadigol i'w wneud gyda'u plant yn ystod tymor Calan Gaeaf. Croeso i ddechreuwyr sy'n newydd i grefftau ac sydd eisiau dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd cefnogol.

Gofynion mynediad

I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:

  • fod yn 19 oed neu'n hŷn;
  • yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.

Cyflwyniad

Sesiynau grŵp bach cyfeillgar

Asesiad

Dim.

Dilyniant

Yn dilyn y cwrs Lluosi, mae Potensial (Dysgu Gydol Oes) yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth. Darganfyddwch fwy yma - https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/potensial-dysgu-gydol-oes

Mwy o wybodaeth

Lefel: 0

Maes rhaglen:

  • Multiply