Danteithion Dieflig: Coginio Calan Gaeaf
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Lleoliad Cymunedol
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 awr
Danteithion Dieflig: Coginio Calan GaeafRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Byddwch yn barod am antur arswydus a hwyliog yn y gegin yn ystod hanner tymor mis Hydref gyda Danteithion Dieflig: Coginio Calan Gaeaf! Yn y cwrs coginio un tro hwn, byddwch yn dysgu sut i greu danteithion blasus sy’n siŵr o wneud argraff. O gacennau bach i fyrbrydau, bydd y profiad ymarferol hwn yn YSBRYDoli eich creadigrwydd yn y gegin. Perffaith ar gyfer cogyddion â sgiliau o bob lefel, mae'n ffordd dda i dreulio'r gwyliau, gyda digon o hwyl a llond bol o hud Calan Gaeaf. Dim ond lle i nifer cyfyngedig sydd, felly cydiwch yn eich ffedogau ac ymunwch â ni am ychydig o hwyl arswydus yn y gegin. Mae’r cwrs untro hwn wedi’i anelu at oedolion dros 19 oed, a theuluoedd. Bydd yn rhaid i blant sy'n mynychu fod yn cael eu goruchwylio gan oedolyn cyfrifol drwy'r amser.
Gofynion mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:
- fod yn 19 oed neu'n hŷn;
- yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Cyflwyniad
Sesiynau grŵp bach cyfeillgar
Asesiad
Dim.
Dilyniant
Yn dilyn y cwrs Lluosi, mae Potensial (Dysgu Gydol Oes) yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth. Darganfyddwch fwy yma - https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/potensial-dysgu-gydol-oes
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
0
Maes rhaglen:
- Multiply