Plygiadau'r Plygain: Cardiau Nadolig ac addurniadau origami

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Lleoliad Cymunedol
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 awr

Gwnewch gais
×

Plygiadau'r Plygain: Cardiau Nadolig ac addurniadau origami

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ymunwch â ni am weithdy ymarferol hwyliog wedi'i anelu at oedolion, lle byddwch chi'n dysgu'r grefft o origami i greu cardiau Nadolig ac addurniadau unigryw. Cynhelir y gweithdy yn ystod y dydd yn ystod y tymor. Bydd y sesiwn hon yn eich galluogi i feistroli plygiadau hanfodol a chrefftio eitemau Nadoligaidd hardd. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer pob lefel sgiliau ac yn cynnig awyrgylch hamddenol a Nadoligaidd i ryddhau eich creadigrwydd a mwynhau cwmni crefftwyr eraill. Darperir yr holl ddeunyddiau, felly'r unig beth sy'n ofynnol ydi eich brwdfrydedd. Manteisiwch ar y cyfle i wneud tymor y Nadolig yn wirioneddol arbennig gyda'ch trysorau wedi'u gwneud â llaw. Bydd cyfranogwyr yn ymarfer mesur papur yn fanwl gywir, gan ddilyn cyfarwyddiadau cam wrth gam a defnyddio eu sgiliau datrys problemau, gan wneud mathemateg yn berthnasol ac yn bleserus mewn cyd-destun creadigol.

Gofynion mynediad

I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:

  • fod yn 19 oed neu'n hŷn;
  • yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.

Cyflwyniad

Sesiynau grŵp bach cyfeillgar

Asesiad

Dim.

Dilyniant

Yn dilyn y cwrs Lluosi, mae Potensial (Dysgu Gydol Oes) yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth. Darganfyddwch fwy yma - https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/potensial-dysgu-gydol-oes

Mwy o wybodaeth

Lefel: 0

Maes rhaglen:

  • Multiply