Paentio ar sidan a pharatoi at y Nadolig
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Lleoliad Cymunedol
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 awr
Paentio ar sidan a pharatoi at y NadoligRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bydd dysgwyr yn archwilio byd paentio sidan yn ystod y gweithdy creadigol dwy awr o hyd ac yn creu dyluniadau hardd ar thema’r Nadolig. P'un ai'n ddechreuwr pur neu'n unigolyn â rhywfaint o brofiad artistig, bydd cyfranogwyr yn dysgu technegau hanfodol, yn arbrofi gyda lliwiau, ac yn creu darn sy'n berffaith ar gyfer rhoi fel anrheg neu addurno'r cartref. Mae paentio sidan yn rhoi cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o batrymau a chymesuredd, wrth gryfhau ymwybyddiaeth ofodol, sgiliau rheoli amser a galluoedd datrys problemau. Mae’r gweithdy hwn ar gyfer oedolion dros 19 oed. Darperir yr holl ddeunyddiau.
Gofynion mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:
- fod yn 19 oed neu'n hŷn;
- yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Cyflwyniad
Sesiynau grŵp bach cyfeillgar
Asesiad
Dim.
Dilyniant
Yn dilyn y cwrs Lluosi, mae Potensial (Dysgu Gydol Oes) yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth. Darganfyddwch fwy yma - https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/potensial-dysgu-gydol-oes
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
0
Maes rhaglen:
- Multiply