Grymuso Trwy Rifedd: Gweithdai Pop-up
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Lleoliad Cymunedol
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
4 awr
Grymuso Trwy Rifedd: Gweithdai Pop-upRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ymunwch â’n sesiynau galw heibio: Rhifedd trwy Rap, a gwella’ch sgiliau rhifedd wrth archwilio cynhyrchu cerddoriaeth ddigidol. Cysylltwch ag eraill mewn amgylchedd hwyliog, hamddenol, a darganfyddwch sut mae ysgrifennu geiriau rap yn ymwneud â rhifau!
Gofynion mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:
- fod yn 19 oed neu'n hŷn;
- yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Cyflwyniad
Sesiynau grŵp bach cyfeillgar
Asesiad
Dim.
Dilyniant
Yn dilyn y cwrs Lluosi, mae Potensial (Dysgu Gydol Oes) yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth. Darganfyddwch fwy yma - https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/potensial-dysgu-gydol-oes
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
0
Maes rhaglen:
- Multiply