Sgiliau Mordwyo Blaengar i Archwilio’n Hyderus
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Lleoliad Cymunedol
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
6-8 awr
Sgiliau Mordwyo Blaengar i Archwilio’n HyderusRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Rhowch hwb i'ch sgiliau cyfeiriannu gyda'n "Sgiliau Mordwyo Blaengar i Archwilio’n Hyderus". Wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sydd eisoes â dealltwriaeth sylfaenol o gyfeiriannu, bydd y cwrs hwn yn dyfnhau dealltwriaeth o dechnegau a strategaethau uwch ar gyfer archwilio'r awyr agored yn hyderus. Yn y sesiwn untro hon, byddwch yn meistroli'r defnydd o fapiau, cwmpawdau, ac offer cyfeiriannu modern, wrth fireinio'ch sgiliau mewn cynllunio llwybrau a dehongli tir. Cymerwch ran mewn ymarferion fydd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o anturiaethau yn yr awyr agored. P'un a ydych chi'n paratoi ar gyfer heiciau heriol neu'n awyddus i wella'ch gwybodaeth awyr agored, bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau i chi allu llywio'ch ffordd gyda sicrwydd a rhwyddineb.
Y man cyfarfod fydd Neuadd Pentref Llanbedr, ac yn cymryd rhan ym Mryniau Clwyd.
Gofynion mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:
- fod yn 19 oed neu'n hŷn;
- yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Cyflwyniad
Sesiynau grŵp bach cyfeillgar
Asesiad
Dim.
Dilyniant
Yn dilyn y cwrs Lluosi, mae Potensial (Dysgu Gydol Oes) yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych i ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth. Darganfyddwch fwy yma - https://www.gllm.ac.uk/cy/course-type/potensial-dysgu-gydol-oes
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
0
Maes rhaglen:
- Multiply