Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
7 diwrnod
Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)Proffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Y manteision i unigolion
Gwybod beth sydd ei angen i fod yn hyfforddwr a mentor effeithiol
Deall beth yw rôl a chyfrifoldebau hyfforddwyr a mentoriaid effeithiol
Dysgu sut i reoli prosesau hyfforddi a mentora drwy ddefnyddio modelau cydnabyddedig
Rhoi eich sgiliau newydd ar waith drwy gynnal sesiynau hyfforddi neu fentora dan oruchwyliaeth
Dadansoddi eich perfformiad hyfforddi neu fentora er mwyn gwella
Y manteision i gyflogwyr
Defnyddio hyfforddiant a mentora effeithiol i wella perfformiad eich sefydliad
Sicrhau bod gan yr unigolion a ddatblygwch yn hyfforddwyr a mentoriaid y sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd arnynt eu hangen
Gwella'r diwylliant hyfforddi a mentora yn eich sefydliad drwy ddatblygu hyfforddwyr gwirioneddol effeithiol
Gofynion mynediad
Mae'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol yn addas i ddysgwyr sydd am feithrin y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i hyfforddi neu fentora pobl yn hyderus mewn cyd-destun sefydliadol. Mae hefyd yn gymhwyster delfrydol i'r sawl sy'n awyddus i ddechrau ar yrfa ym maes hyfforddi neu fentora.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Gwaith grŵp
- Ymarferion chwarae rôl
- Cwisiau
- Cyflwyniadau
Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg, a Saesneg yw iaith mwyafrif adnoddau'r sesiynau, er bod rhai adnoddau ar gael yn Gymraeg. Gellir cwblhau/cyflwyno'r aseiniad a'r portffolio o dystiolaeth yn Gymraeg.
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Aseiniad seiliedig ar waith
- Portffolio'n cynnwys dyddiadur hyfforddi a dyddiadur adfyfyriol
Dilyniant
Bydd y cymhwyster hwn yn cynnig cyfleoedd i symud ymlaen i gael cymwysterau eraill fel:
Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 3 ILM mewn Arwain a Rheoli
Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol
Tystysgrif neu Ddiploma lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli
Gwybodaeth campws Abergele
Dwy uned orfodol, i gael 6 chredyd, a 10 credyd o Grŵp 1 neu 10 credyd o Grŵp 2
Modiwlau Gorfodol:
Deall beth yw Arferion Da o ran Hyfforddi mewn Cyd-destun Sefydliadol
Deall beth yw Arferion Da o ran Mentora mewn Cyd-destun Sefydliadol
Grŵp 1
Ymgymryd â Chyfnod Estynedig o Hyfforddi mewn Cyd-destun Sefydliadol
Adfyfyrio ar Sgiliau Hyfforddi mewn Cyd-destun Sefydliadol
Grŵp 2
Ymgymryd â Chyfnod Estynedig o Fentora mewn Cyd-destun Sefydliadol
Adfyfyrio ar Sgiliau Mentora mewn Cyd-destun Sefydliadol
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Business and Management
Dwyieithog:
n/aBusiness and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: