Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Mentora Effeithiol (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
6 diwrnod
Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Mentora Effeithiol (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)Proffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Y manteision i unigolion
• Gwybod beth sydd ei angen i fod yn fentor effeithiol
• Deall beth yw rôl a chyfrifoldebau mentoriaid effeithiol
• Dysgu am ddull mentora cydnabyddedig, ac am yr adnoddau a'r technegau sy'n ei gefnogi
• Rhoi eich sgiliau newydd ar waith drwy gynnal sesiynau mentora dan oruchwyliaeth
•Dadansoddi eich perfformiad mentora er mwyn gwella
Y manteision i gyflogwyr
• Defnyddio mentora i wella perfformiad eich sefydliad
• Sicrhau bod gan yr unigolion a ddatblygwch yn fentoriaid effeithiol y sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd arnynt eu hangen
• Gwella'r diwylliant mentora yn eich sefydliad drwy ddatblygu hyfforddwyr gwirioneddol effeithiol
Gofynion mynediad
Mae'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Mentora Effeithiol yn addas i ddysgwyr ar bob lefel sydd am feithrin gwybodaeth a sgiliau mentora effeithiol mewn cyd-destun sefydliadol. mae'n ddelfrydol i fentoriaid newydd neu brofiadol.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Gwaith grŵp
- Ymarferion chwarae rôl
- Cwisiau
- Cyflwyniadau
Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg, a Saesneg yw iaith mwyafrif adnoddau'r sesiynau, er bod rhai adnoddau ar gael yn Gymraeg. Gellir cwblhau/cyflwyno'r aseiniad a'r portffolio o dystiolaeth yn Gymraeg
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Aseiniad seiliedig ar waith
- Portffolio'n cynnwys dyddiadur hyfforddi a dyddiadur adfyfyriol
Dilyniant
Bydd y cymhwyster hwn yn cynnig cyfleoedd i symud ymlaen i gael cymwysterau eraill fel:
Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol
Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 3 ILM mewn Arwain a Rheoli
Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol
Gwybodaeth campws Abergele
Yn ystod y cwrs, byddwch yn astudio tri modiwl ILM: Deall beth yw arferion da o ran mentora mewn cyd-destun sefydliadol
– Pwrpas yr uned hon yw galluogi dysgwyr i ddeall beth yw'r arferion da o ran mentora yn y gweithle
Ymgymryd â chyfnod estynedig o fentora mewn cyd-destun sefydliadol
– Pwrpas yr uned hon yw trefnu a mynd ati i fentora yn y gweithle.
Adfyfyrio ar sgiliau mentora mewn cyd-destun sefydliadol
– Pwrpas yr uned hon yw galluogi dysgwyr i adfyfyrio ar eu gallu i fentora yn y gweithle.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Business and Management
Dwyieithog:
n/aBusiness and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: