Dyfarniad Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
10 diwrnod dros 10 wythnos. 1 diwrnod yr wythnos gan gyfarfod ar-lein gyda eich tiwtor a'ch cyd-ddysgwyr.
Dyfarniad Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)Proffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Cynlluniwyd y cymhwyster hwn ar gyfer rheolwyr prosiect, penaethiaid adran a rheolwyr canol eraill. Mae'r Dyfarniad Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli'n addas i rai sy'n gweithio fel rheolwyr canol ar hyn o bryd. Bydd yn eu helpu i feithrin eu sgiliau, i fagu profiad ac i wella eu perfformiad, ac yn eu paratoi i ysgwyddo cyfrifoldebau uwch reolwyr.
O'ch safbwynt chi, manteision dilyn y cwrs hwn yw:
- Defnyddio technegau rheoli craidd i gael canlyniadau gwell
- Datblygu eich gallu i arwain, i gymell ac i ysbrydoli
- Arwain yn strategol yn ogystal â rheoli o ddydd i ddydd
- Meincnodi eich sgiliau rheoli
- Codi eich proffil yn eich sefydliad.
O safbwynt eich cyflogwr, manteision dilyn y cwrs hwn yw:
- Rheolwyr ac arweinwyr effeithiol a hyderus
- Annog unigolion i feddwl yn strategol ar y lefel hon yn arwain at welliant yn y busnes
- Hyfforddi a datblygu rheolwyr canol - dyluniwyd y cymwysterau hyn i gynnig manteision clir y gellir eu mesur i bobl broffesiynol
Canlyniadau mesuradwy: mae'r asesu yn y gweithle'n sicrhau y caiff y sgiliau newydd eu trosglwyddo'n effeithiol i'ch busnes
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd y rhai a fydd yn dilyn y rhaglen yn:
- Gweithio fel rheolwyr prosiect, penaethiaid adran a rheolwyr canol eraill Mae'r Diploma Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli'n addas i rai sy'n gweithio fel rheolwyr canol ar hyn o bryd. Bydd yn eu helpu i feithrin eu sgiliau, i fagu profiad ac i wella eu perfformiad, ac yn eu paratoi i ysgwyddo cyfrifoldebau uwch reolwyr.
- Meddu ar Sgiliau Sylfaenol, Llythrennedd a Rhifedd digonol er mwyn gallu elwa i'r eithaf o'r rhaglen
- Cael cefnogaeth eu cyflogwyr, gyda neu heb nawdd
- Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs ar-lein, mae wedi ei arwain gan diwtor drwy gyfuniad o sesiynau wedi eu hamserlennu yn cynnwys y canlynol:
- Pecyn cyflwyno ar-lein*
- Gweminarau (sesiynau addysgu proffesiynol wedi eu harwain gan diwtor ar-lein)
- Setiau dysgu gweithredol (grŵp ac unigolyn).
- Trafodaethau proffesiynol
- Astudiaethau achos
- Cwisiau
- Cyflwyniadau
- Astudio personol dan gyfarwyddyd
- Sesiynau Tiwtorial personol 1-2-1
* Bydd y pecyn cyflwyno ar-lein yn eich ymgyfarwyddo yn llwyr gyda'r holl offer a sut i gael mynediad iddynt. Byddwch yn derbyn hyn unwaith rydych wedi eich cofrestru ar y cwrs cyn i chi ddechrau'r sesiynau a addysgir mewn gwirionedd. Cewch hefyd ddefnyddio cyfleusterau amgylchedd ddysgu rhith-wirionedd lle y ceir eich holl adnoddau dysgu, a fydd yn eich cefnogi'n llawn drwy gydol eich astudiaethau
** Dylid nodi fod gliniadur/cyfrifiadur, meicroffon, camera a mynediad i'r rhyngrwyd yn ofynnol ar gyfer y rhaglen hon. Nid yw ffonau symudol a PDA's yn addas ac ni fyddant yn darparu profiad dysgu da.
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Aseiniadau seiliedig ar waith
- Cyflwyniadau llafar
- Adolygiadau adfyfyriol
Dilyniant
Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch fynd ymlaen i ddilyn cwrs pellach neu i wneud cynnydd yn eich gwaith. Byddwch yn datblygu'ch arferion proffesiynol ac mae'n bosib y gallwch anelu at gael dyrchafiad yn rheolwr canol.
Yn addysgol, y cam rhesymegol nesaf fyddai cwblhau Tystysgrif a Diploma Lefel 5 yr ILM mewn Arwain a Rheoli.
Fel arall bydd y Dyfarniad, Tystysgrif a Diploma Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora yn cynnig setiau sgiliau sy'n ychwanegu gwerth ar gyfer darpar arweinwyr.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol
Lefel:
5
Maes rhaglen:
- Business and Management
Dwyieithog:
n/a
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: