Tystysgrif Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    14 sesiynau.

Gwnewch gais
×

Tystysgrif Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Manteision i unigolion

● Defnyddio technegau rheoli craidd i gael canlyniadau gwell

● Datblygu eich gallu i arwain, i gymell ac i ysbrydoli

● Arwain yn strategol yn ogystal â rheoli o ddydd i ddydd

● Meincnodi eich sgiliau rheoli

● Codi eich proffil yn eich sefydliad.

Y manteision i gyflogwyr

● Annog unigolion i feddwl yn strategol ar y lefel hon yn arwain at welliant yn y busnes

● Hyfforddi a datblygu rheolwyr canol - dyluniwyd y cymwysterau hyn i gynnig manteision clir y gellir eu mesur i bobl broffesiynol

Gofynion mynediad

Dyluniwyd y cymhwyster hwn ar gyfer rheolwyr prosiect, penaethiaid adran a rheolwyr canol eraill.Mae'r Diploma Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli'n addas i rai sy'n gweithio fel rheolwyr canol ar hyn o bryd. Bydd yn eu helpu i feithrin eu sgiliau, i fagu profiad ac i wella eu perfformiad, ac yn eu paratoi i ysgwyddo cyfrifoldebau uwch reolwyr.

Cyflwyniad

Sesiynau/darlithoedd yn y coleg, gwaith grŵp, astudio personol, aseiniadau seiliedig ar waith, ac adfyfyrio

Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg, a Saesneg yw iaith mwyafrif adnoddau'r sesiynau, er bod rhai adnoddau ar gael yn Gymraeg. Gellir cwblhau/cyflwyno'r aseiniad a'r portffolio o dystiolaeth yn Gymraeg.

Asesiad

Bod yn Arweinydd Effeithiol - Aseiniad Seiliedig ar Waith Mae'r aseiniad hwn yn gofyn i chi ddeall a gwerthfawrogieich gallu i wireddu cyfrifoldebau allweddol y rôl a gwerthuso eich gallu i arwain eraill.

Arwain Arloesedd a newid a Rheoli Prosiectau yn y Sefydliad Aseiniad Seiliedig ar Waith -mae'r aseiniad hwn yn gofyn i chi ddeall yr angen am arloesedd a newid mewn sefydliad. Hefyd, cynnig datrysiadau arloesol a fydd yn gwella perfformiad y sefydliad er mwyn gallu arwain a rheoli newid yn y sefydliad a gwerthuso eich gallu i reoli prosiectau

Dilyniant

Diploma Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli

Dyfarniad, Tystysgrif a Diploma Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 5

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Dwyieithog:

n/a

Business and Management

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Business and Management

Myfyrwyr mewn llyfrgell