Diploma Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
34 wythnos, rhan amser (1 diwrnod yr wythnos)
Diploma Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)Proffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r Diploma Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli'n addas i reolwyr canol. Bydd yn eu helpu i feithrin eu sgiliau, i fagu profiad ac i wella eu perfformiad, ac yn eu paratoi i ysgwyddo cyfrifoldebau uwch reolwyr.
Gallwch ddewis astudio yn ein campws yn Llandrillo-yn-rhos, neu yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Gofynion mynediad
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol. Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond fel rheol dylai'r rhai sy'n dilyn y rhaglen:
- Fod â chymhwyster Lefel 4 ym maes rheoli, neu brofiad proffesiynol cyfatebol
- Bod yn gweithio fel rheolwr
- Cael cefnogaeth eu cyflogwyr, gyda neu heb nawdd
- Meddu ar Sgiliau Sylfaenol, Llythrennedd a Rhifedd digonol er mwyn gallu elwa i'r eithaf o'r rhaglen
- Cwblhau modiwlau'r Dyfarniad a'r Dystysgrif Lefel 5 yn rhan o'r Diploma, os yw hynny'n berthnasol.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Gwaith grŵp
- Ymarferion chwarae rôl
- Cwisiau
- Cyflwyniadau
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Aseiniadau seiliedig ar waith
- Portffolio
- Cyflwyniadau llafar
- Adolygiadau adfyfyriol
Dilyniant
Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch barhau i wneud cynnydd yn eich gyrfa ym maes rheoli. Byddwch yn datblygu'n rheolwr mwy effeithiol ac effeithlon, gan ragori yn eich gwaith proffesiynol. Mae'n bosib y gallwch anelu at gael eich dyrchafu'n rheolwr canol neu'n uwch reolwr.
Yn addysgol, y cam rhesymegol nesaf fyddai cwblhau Dyfarniad Lefel 6 yr ILM mewn Arwain a Rheoli a gynigir yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Bydd y dyfarniad hwn yn eich paratoi i ysgwyddo cyfrifoldebau uwch reolwr. Wedyn, gallech fynd ymlaen i ddilyn rhaglen Dyfarniad, Tystysgrif a Diploma Lefel 7 er mwyn i chi feithrin sgiliau uwch reoli o'r radd flaenaf.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
cysylltwch â ilm@gllm.ac.uk
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol
Lefel:
5
Maes rhaglen:
- Business and Management
Dwyieithog:
n/aBusiness and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: