Prentisiaethau mewn Gwella Perfformiad Ymarferol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Lefel 2: 12 mis
Prentisiaethau mewn Gwella Perfformiad YmarferolPrentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r fframwaith Gwella Perfformiad Ymarferol yn cynnwys tri llwybr dysgu (Gwneud Gwaith Peirianneg Lefel 2, Gwneud Gwaith Cynhyrchu Lefel 2 a Thechnegau Gwella Busnes Lefel 2) sy'n darparu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar brentisiaid i gynnal amrywiaeth o brosesau peirianneg a chynhyrchu ar lefel led-grefftus ac ar lefel gweithredwr.
Mae'r llwybr Gwella Technegau Busnes yn sicrhau bod prosesau busnes yn cael eu cynllunio a'u cyflawni mor effeithlon â phosibl gan nodi a lleihau gwastraff a sicrhau'r ansawdd uchaf.
Gofynion mynediad
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, ond byddai profiad o waith peirianneg yn ddymunol.
- Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf y NVQ.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
- Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle
- Bydd gofyn i ddysgwyr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg Fecanyddol.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
2+3
Maes rhaglen:
- Peirianneg
Dwyieithog:
n/a