Mesur Proses Ddiwydiannol (IPM)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    15 wythnos (4 awr yr wythnos)

Gwnewch gais
×

Mesur Proses Ddiwydiannol (IPM)

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs wedi'i anelu at weithwyr cynnal a chadw sydd angen gwybod sut i ganfod diffygion mewn trawsddygiaduron diwydiannol a phrosesau signal yn ogystal â gwybod am y dechnoleg sydd wrth wraidd y rhain.

Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol, ond byddai cefndir ym maes egwyddorion electroneg sylfaenol o fantais. Mae'r cwrs yn addas i rai ar bob lefel, o brentisiaid i raddedigion mewn rȏl dechnegol neu beidio.

Cyflwynir y cwrs drwy gyfrwng pedwar modiwl:

  • Trawsddygiadur diwydiannol a'i raglenni
  • Gweithredu a defnyddio systemau prosesu signalau
  • Trosglwyddo signal a systemau recordio
  • Dewis/defnyddio amrywiaeth o gyfarpar i brofi a chalibro offer ar waith prosesu

Cost y cwrs: £450

Gofynion mynediad

Nid oes angen gwybodaeth flaenorol. Fodd bynnag, byddai cefndir mewn egwyddorion electroneg sylfaenol yn fanteisiol.

Cyflwyniad

Cyfuniad o ddamcaniaeth dosbarth gydag ymarferion a thasgau yn y gweithdy.

I ganfod eich anghenion cyflwyno, mae modd llenwi holiadur cyn cofrestru ar y cwrs i'ch helpu i benderfynu ar y cyfuniad gorau i chi.

Daw'r holl ddulliau cyflwyno gyda chanllawiau astudio a phecynnau hunanasesu.

Asesiad

Cewch eich asesu drwy gyfrwng 3 aseiniad ysgrifenedig:

  • Rhaglenni Trawsddygiadur Diwydiannol
  • Prosesu Signal, Systemau Trosglwyddo a Recordio
  • Profi a Chalibro Offeryniaeth Gwaith Prosesu

Dilyniant

Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy (PLC)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Dwyieithog:

n/a