Prentisiaeth - Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Cwrs seiliedig ar waith yw hwn sydd, fel rheol, yn para 18 mis.
Prentisiaeth - Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Lefel 3Prentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Yng Nghymru, mae nifer gynyddol o sefydliadau'n cynnig gwybodaeth, cyngor a/neu arweiniad mewn meysydd arbenigol sy'n amrywio o gyngor ar yrfaoedd a sgiliau cyflogadwyedd i gyngor ar wasanaethau cymorth a rheoli arian.
Mae'r cwrs hwn i'r dim i unigolion sydd, yn eu swyddi, yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i gleientiaid, ac yn cynorthwyo unigolion i wynebu rhwystrau a gwneud dewisiadau deallus.
Mae'r sectorau perthnasol yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
- Gwasanaethau cymorth
- Cyngor gyrfaol
- Eiriolaeth
- Canolfannau gwaith
- Y sector gwirfoddol
- Gwasanaethau cyflogaeth
- Tai
- Mentora
- Cyngor Pawb ar Bopeth
- Gwasanaethau Dyledion
Gall llawer o bobl beidio â bod yn ymwybodol eu bod yn darparu cyngor ac arweiniad yn eu gwaith, neu gall hynny fod yn ddim ond rhan fechan o'u gwaith - er enghraifft, gweithwyr mewn adran AD, yn yr heddlu a'r sector addysg, hyfforddwyr ffitrwydd a chynghorwyr ym maes hyfforddi.
Nod y fframwaith hwn yw helpu'r sector i ddiwallu'r galw cynyddol hwn drwy gydnabold yn ffurfiol broffesiynoldeb y sector, gwella cynhyrchedd, perfformiad a bodlonrwydd cwsmeriaid.
- Llwybr 1: Diploma Lefel 3 mewn Cyngor ac Arweiniad
- Llwybr 2: Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau
Gofynion mynediad
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol
- Rhaid i bob prentis fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf yr NVQ
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle. Fodd bynnag, bydd gofyn i brentisiaid fynychu rhai sesiynau yn y coleg er mwyn cwblhau tasgau a phrofion theori.
Asesiad
- Cwblhau portffolio tystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
Dilyniant i lefel 4 yn amodol ar y swydd a meysydd cyfrifoldeb.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Business and Management
Dwyieithog:
Ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: