Prentisiaeth Uwch - Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Lefel 4

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Cwrs seiliedig ar waith yw hwn sydd, fel rheol, yn para 18 mis.

    Bydd angen i chi fynychu dau ddiwrnod yr ysgol yn ystod y tymor.

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth Uwch - Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Lefel 4

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Yng Nghymru, mae nifer gynyddol o sefydliadau'n cynnig gwybodaeth, cyngor a/neu arweiniad mewn meysydd arbenigol sy'n amrywio o gyngor ar yrfaoedd a sgiliau cyflogadwyedd i gyngor ar wasanaethau cymorth a rheoli arian.

Mae'r cwrs Lefel 4 hwn i'r dim i unigolion sydd, yn eu swyddi, yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i gleientiaid, ac yn cynorthwyo unigolion i wynebu rhwystrau a gwneud dewisiadau deallus.

Mae'r sectorau perthnasol yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

  • Gwasanaethau cymorth
  • Cyngor gyrfaol
  • Eiriolaeth
  • Canolfannau gwaith
  • Y sector gwirfoddol
  • Gwasanaethau cyflogaeth
  • Tai
  • Mentora
  • Cyngor Pawb ar Bopeth
  • Gwasanaethau Dyledion

Gall llawer o bobl beidio â bod yn ymwybodol eu bod yn darparu cyngor ac arweiniad yn eu gwaith, neu gall hynny fod yn ddim ond rhan fechan o'u gwaith - er enghraifft, gweithwyr mewn adran AD, yn yr heddlu a'r sector addysg, hyfforddwyr ffitrwydd a chynghorwyr ym maes hyfforddi.

Nod y fframwaith hwn yw helpu'r sector i ddiwallu'r galw cynyddol hwn drwy gydnabold yn ffurfiol broffesiynoldeb y sector, gwella cynhyrchedd, perfformiad a bodlonrwydd cwsmeriaid.

  • Llwybr 1: Diploma Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad
  • Llwybr 2: Diploma Lefel 4 mewn Gwasanaethau

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, er y gall cymhwyster tebyg ar Lefel 3 bod yn fuddiol
  • Rhaid i bob prentis fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf yr NVQ

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle. Fodd bynnag, bydd gofyn i brentisiaid fynychu rhai sesiynau yn y coleg er mwyn cwblhau tasgau a phrofion theori.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio tystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Dwyieithog:

Ydy

Business and Management

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Business and Management

Myfyrwyr mewn llyfrgell