Cyflwyniad i fod yn Cynorthwyydd Dysgu
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dolgellau, Llyfrgell Bae Colwyn, Caernarfon, Caergybi, Blaenau Ffestiniog, Ffordd Las Community Centre - Rhyl
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
16/17 wythnos
Cyflwyniad i fod yn Cynorthwyydd Dysgu
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs yn helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn ystafell ddosbarth cynradd. Yn Llandrillo-yn-Rhos a Phrestatyn bydd dysgwyr yn treulio 2 ddiwrnod yr wythnos yn dysgu mewn lleoliad cymunedol, ac 1 diwrnod ychwanegol yr wythnos o brofiad gwaith. Yng Nghaergybi a Chaernarfon mae'r profiad gwaith yn digwydd ar ddiwedd y cwrs.
Bydd tiwtoriaid yn cynorthwyo myfyrwyr i drefnu eu lleoliadau. Mae'r oriau'n teulu-gyfeillgar, gyda chyfanswm o lai na 16/17 awr yr wythnos.
Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim, ond rhaid i fyfyrwyr gwblhau gwiriad DBS â'r Coleg sydd (ar hyn o bryd) yn costio £38.
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Darlithoedd
- Cyflwyniadau
- Gwaith grŵp
- Dysgu yn y dosbarth
Byddwch yn treulio 2 ddiwrnod yr wythnos yn y dosbarth: 9.30yb -2.30yp.
Byddwch hefyd yn cael lleoliad gwaith mewn ysgol am 1 diwrnod yr wythnos am 5 awr, ar adegau sy'n gyfleus i'r ysgol.
Asesiad
Cewch eich asesu drwy bortffolio.
Dilyniant
Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
- Cynorthwywyr Ystafell Ddosbarth CACHE Lefel 2 (Tystysgrif ar gyfer Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion)
Mwy o wybodaeth
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Dwyieithog:
n/aIechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant