Cyflwyniad i Ffotograffiaeth Ddigidol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    10 wythnos, 3 awr yr wythnos

Cofrestrwch
×

Cyflwyniad i Ffotograffiaeth Ddigidol

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs yn gyflwyniad i ffotograffiaeth ddigidol ac i ddefnyddio camera digidol. Mae'r cwrs yn ymdrin â chyfansoddiad, fel y rheol traeanau, technegau ffotograffig, rheolyddion camera a mathau o gamerâu.

Bydd yn cynnwys rhai tasgau golygu lluniau gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol. Byddai bod wedi dilyn cwrs cyfrifiadurol i ddechreuwyr yn eich helpu i wneud cynnydd ar y cwrs hwn.

Gofynion mynediad

  • Addas i ddechreuwyr sy'n ymddiddori mewn ffotograffiaeth ac sy'n chwilfrydig.
  • Addas i'r rhai efo profiad o ddefnyddio cyfrifiadur.

Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Cynhelir y gwersi mewn uned gyfrifiadurol lawn cyfarpar a defnyddir amrywiaeth eang o ddulliau addysgu. Bydd yna ddarlithiau, trafodaethau ac arddangosiadau ymarferol, clipiau fideo a gwaith prosiect.

Asesiad

Mae'r cwrs hwn wedi ei seilio ar bortffolio, felly byddwch yn creu ffolder o'ch gwaith sy'n cwmpasu dwy uned ac a farciwyd gan y tiwtoriaid.

Dilyniant

Ffotograffiaeth Ddigidol, Lefel 1

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: N/A

Dwyieithog:

n/a