Cyflwyniad i faes Gwallt a Harddwch

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    Un flwyddyn

Gwnewch gais
×

Cyflwyniad i faes Gwallt a Harddwch

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y sector trin gwallt neu'r sector therapi harddwch. Bydd angen i chi fod yn ymroddedig i'ch dysgu a bydd angen i chi brynu cit a gwisg ar gyfer y cwrs.

Mae'r cymhwyster yn cynnwys:

Tystysgrif BTEC Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol:

  • Bod yn drefnus
  • Datblygu cynllun dilyniant personol⁠
  • Cyfrannu at dasgau sy’n gysylltiedig â'r salon
  • Arddangos celf ewinedd
  • Arddangos technegau colur

Tystysgrif Lefel 1 mewn Cyflwyniad i Wallt a Harddwch:

  • Cyflwyniad i’r sector gwallt a harddwch
  • Cyflwyno delwedd broffesiynol mewn salon
  • Siampŵ a chyflyru
  • Steilio gwallt merched
  • Creu delwedd gan ddefnyddio lliw ar gyfer y sector gwallt a harddwch

Tystysgrif mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol:

  • ⁠Sgiliau astudio
  • Gwella'ch hyder eich hun
  • Meithrin Sgiliau
  • Datrys problemau

Gofynion mynediad

2 TGAU gradd E

Cyflwyniad

  • Darlithoedd
  • Arsylwadau ar waith ymarferol
  • Sesiynau trafod a dosbarthiadau tiwtorial
  • Gwaith grŵp
  • Ymweliadau allanol
  • Siaradwyr gwadd

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Tasgau ymarferol a gwaith cwrs.

Dilyniant

  • Lefel 1 mewn Trin Gwallt yn Llandrillo-yn-Rhos neu'r Rhyl
  • Lefel 1 mewn Gwaith Barbwr yn Llandrillo-yn-Rhos
  • Lefel 1 mewn Therapi Harddwch yn Llandrillo-yn-Rhos neu'r Rhyl

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 1