Cyflwyniad i Roboteg Diwydiannol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
10 wythnos, 3 awr yr wythnos
Cyflwyniad i Roboteg DiwydiannolCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs yma yn gyflwyniad i raglennu robotiaid diwydiannol, dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn roboteg neu sy'n edrych i ehangu eu sgiliau i ddechrau gyrfa mewn rhaglennu robotiaid diwydiannol wneud cais. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i weithredu robotiaid diwydiannol, creu, golygu a phrofi rhaglenni newydd yn ogystal â dysgu am agweddau diogelwch robotiaid diwydiannol.
Gofynion mynediad
Dim (sgiliau cyfrifiadur da yn ffafriol)
Cyflwyniad
Bydd yr addysgu yn gymysgedd o brofiad ymarferol gyda robotiaid diwydiannol yn ogystal â rhaglennu drwy feddalwedd.
Asesiad
Bydd gan y cwrs 3 tasg asesu ymarferol yn ogystal â set o gwestiynau yn seiliedig ar wybodaeth i'w cwblhau erbyn diwedd y 10 wythnos.
Dilyniant
Ymhlith y cyfleoedd dilyniant mae; cyrsiau byr eraill a gynigir yn y sector peirianneg, cyrsiau amser llawn a gynigir gan y coleg, cyrsiau prentisiaeth rhan amser.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Peirianneg
Dwyieithog:
n/a