IPAF Gweithredydd - Braich Symudol (DUEL) Fertigol Symudol (3a) + (3b)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod

Gwnewch gais
×

IPAF Gweithredydd - Braich Symudol (DUEL) Fertigol Symudol (3a) + (3b)

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae cwrs IPAF hwn yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol i ddysgwyr weithredu offer mynediad gyda phŵer yn ddiogel. Mae'r cwrs Gweithredwr IPAF, sy'n cynnwys sesiwn hyfforddiant ymarferol ac asesu, yn cwmpasu dau gyfarpar sef Gweithredydd Braich Fertigol (3a) a Braich Symudol (3b).

Mae'r cwrs yn cwmpasu:
Gweithredydd Braich Fertigol (3a, 3a+): Lifftiau siswrn, platfformau personél fertigol (symudol)
Braich Symudol (3b, 3b+): Breichiau hunanyriant

Bydd dysgwyr sy'n cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn cael Trwydded Mynediad gyda Phŵer (PAL) IPAF sy'n ddilys am bum mlynedd.

Gofynion mynediad

Rhaid meddu ar ddealltwriaeth dda o Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Cyflwyniad

Theori

  • Cyflwyniad a phrawf theori cyn y cwrs
  • Rheoliadau a chanllawiau defnyddio Platfform Codi Symudol (MEWP)
  • Mathau o beiriannau a'u defnydd
  • Rhannau strwythurol
  • Ymgyfarwyddo gyda'r offer ac archwilio cyn ei ddefnyddio
  • Dulliau gweithredu diogel a'r peryglon

Sesiynau ymarferol

  • Hyfforddiant ymarferol

Asesiad

  • Prawf theori ysgrifenedig
  • Asesiad ymarferol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Peirianneg

Myfyriwr yn gweithio ar fwrdd trydanol