Defnyddio harnais ac archwilio (IPAF)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 diwrnod
Defnyddio harnais ac archwilio (IPAF)Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae’r cwrs yn cwrs arweiniol y diwydiant a fydd yn rhoi'r wybodaeth i ddysgwyr ddeall y Rheoliadau, y Canllawiau a'r Safonau Iechyd a Diogelwch perthnasol sy'n ymwneud â defnyddio Harnais yn benodol.
Byddant hefyd yn cael y wybodaeth i adnabod a dewis y ffurf gywir o Gyfarpar Diogelu Personol (PPE) i'w amddiffyn yn achos syrthio o uchder wrth weithio ar Blatfform Codi Symudol (MEWP).
Gofynion mynediad
Rhaid meddu ar ddealltwriaeth dda o Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Cyflwyniad
Bydd y cwrs yn cynnwys archwilio, cynnal a chadw, monitro, gosod a defnyddio offer diogelwch yn gywir.
Cyflwyniad
- Deddfwriaeth, safonau a chanllawiau
- Hierarchaeth mesurau amddiffyn rhag syrthio
- Datganiad Defnyddio Harnais IPAF
- Harnais, laniard a ffitiadau
- Gwiriadau cyn defnyddio'r offer (gan gynnwys rhai ymarferol)
- Pwyntiau defnyddio ac angori
- Archwilio a defnydd diogel
- Cyflawni'r dasg yn ddiogel
- Storio a chynnal a chadw
- Peryglon a rhagofalon - Cynllunio ar gyfer achub
Asesiad
Asesiad theori ac ymarferol.
Dilyniant
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Peirianneg