Prentisiaeth Gradd ym maes TG (Peirianneg Meddalwedd)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor, Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Tair blynedd, sef un diwrnod ac un noson yr wythnos dros y flwyddyn academaidd.
Mae'n bosibl hefyd y bydd pedwar sesiwn y flwyddyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Prentisiaeth Gradd ym maes TG (Peirianneg Meddalwedd)Prentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Cynlluniwyd y cwrs hwn i wella sgiliau, gwybodaeth a medrusrwydd unigolion sy'n gweithio yn y sector TGCh a Meddalwedd. Mae'n gwneud hyn drwy eu rhyddhau o'u gwaith i astudio yng Ngholeg Llandrillo a Phrifysgol Bangor a thrwy gynllun dysgu seiliedig ar waith.
Cyllidir y cwrs yn llawn gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Gofynion mynediad
Mae angen i chi fod mewn gwaith llawn neu ran-amser a bodloni gofynion y fframwaith ar gyfer prentisiaethau gradd.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd rhyngweithiol
- Tiwtorialau / gweithdai
- Siaradwyr gwadd
- Dysgu myfyriwr ganolog
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
Byddwch yn dysgu'n anffurfiol drwy gymryd rhan, gan gael digon o gyfle i archwilio ar eich liwt eich hun a bod yn greadigol.
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Aseiniadau ymarferol ac aseiniadau wedi'u seilio ar theori
- Adroddiadau
- Cyflwyniadau llafar
- Gweithio ar brosiect
- Portffolios
- Aseiniadau grŵp/tîm
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
4-6
Dwyieithog:
n/a