Gweithiwr Proffesiynol ym maes TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu - Prentisiaeth Uwch
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
24 mis
Gweithiwr Proffesiynol ym maes TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu - Prentisiaeth UwchPrentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r fframwaith Prentisiaeth yn cynnig sgiliau, gwybodaeth a'r cymhwysedd sydd yn angenrheidiol i weithio ym maes Meddalwedd TG, Y We neu Thelathrebu mewn amrywiaeth o swyddi yn cynnwys:
- Cymhorthydd Technegol TG
- Datblygwr Meddalwedd
- Datblygwr Gwe
- Gweinyddwr Cronfa Ddata
- Peiriannydd Telathrebu
- Cynllunydd Rhwydwaith
Mae'r rhaglen brentisiaethau yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth gyda gwaith ym maes TG, ac mae hynny'n golygu bod y prentisiaid yn derbyn cyflog yn ystod y rhaglen.
Gall prentisiaid ddefnyddio a gwella eu sgiliau yn y gweithle i gyd-fynd â'r hyfforddiant dan oruchwyliaeth hyfforddwr.
Gofynion mynediad
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad o ddefnyddio TG yn ddymunol
- Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf y cymhwyster
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
- Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle gyda dau ddiwrnod yr wythnos yn y coleg
- Bydd gofyn i ddysgwyr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
Ariannwyd y rhaglen hwn yn rhannol gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
4-6
Maes rhaglen:
- Business and Management
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Llandrillo-yn-Rhos
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: