Prentisiaethau mewn Defnyddwyr TG
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
16 mis
Prentisiaethau mewn Defnyddwyr TGPrentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r fframwaith yn cynnig i'r prentis y medrusrwydd, sgiliau a'r wybodaeth i weithio yn effeithiol ac effeithlon gyda systemau TG, offer a chymwysiadau cyfathrebu a chynhyrchiant mewn ystod o swyddogaethau gwaith a sectorau diwydiant.
Gall y Defnyddiwr Prentisiaeth Lefel 2 mewn TG fod yn gweithio mewn ystod eang o ddiwydiannau, gan gynnwys swyddogaethau gwaith nodweddiadol fel:
- Cynorthwyydd Personol, Cefnogaeth swyddfa
- Cefnogaeth desg gymorth cymwysiadau
- Dylunio/technegydd gwefan
- Cynorthwyydd cyhoeddi neu amlgyfryngau
- Gweithredwr Gwerthiant a Marchnata
- Cynorthwyydd addysgu neu weinyddwr ysgol.
Bydd y Prentis Lefel 3 wedi ei baratoi ar gyfer swyddogaethau gwaith sydd yn gofyn am wybodaeth mewn dyfnder a medrusrwydd yn y defnydd o systemau a meddalwedd neilltuol, yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy eang a'r gallu i ddatblygu a phrofi datrysiadau i wella cynhyrchiant gweithle drwy'r defnydd o TG.
Gofynion mynediad
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad mewn TG yn ddymunol
- Dylai fod gan brentisiaid gyflogwr a fedr ateb gofynion meini prawf yr NVQ
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
- Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle
- Bydd gofyn i ddysgwyr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
2+3
Maes rhaglen:
- Business and Management
Dwyieithog:
n/aBusiness and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: