Archwilio ystolion ac ystolion bach

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau, CIST-Llangefni, Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai, Ty Gwyrddfai, Employers site
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1/2 diwrnod

Gwnewch gais
×

Archwilio ystolion ac ystolion bach

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs wedi ei anelu at y rhai y mae'n ddyletswydd arnynt i archwilio a chynnal ysgolion ac ysgolion bach yn eu gweithle. Bydd y cwrs yn cynnwys yr hyn mae mynychwyr angen ei wybod am y gyfraith a safonau yn perthyn i ysgolion ac ysgolion bach. Bydd ganddynt ddealltwriaeth sut i storio a thrin ysgolion ac ysgolion bach.

Pynciau cwrs yn cynnwys:

• dysgu sut i asesu a phenderfynu pryd y mae'n briodol archwilio ysgolion ac ysgolion bach

• Cofnodi darganfyddiadau ac argymell camau i'w cymryd os deuir o hyd i namau

• cofnodi'n gywir fanylion ysgolion ac ysgolion bach

Gofynion mynediad

Wedi mynychu cwrs Defnyddwyr Ystolion ac Ystolion Bach

Cyflwyniad

Dysgir y cwrs drwy gyfrwng cyfres o sesiynau ystafell ddosbarth gyda sleidiau lle mae'r hyfforddwr yn darparu gwybodaeth ac yn holi cwestiynau. Bydd yna ymarfer grŵp ar archwiliadau a dadansoddiad o beryglon a holiadur unigol ar archwiliad o ysgolion ac ysgolion bach.

Bydd tystysgrif Ladder Association a Ladder Card yn cael ei roi i fynychwyr cwrs llwyddiannus sydd yn cwblhau'r sesiynau asesu theori ac ymarferol ac mae ganddynt gyfnod o ddilysrwydd o 5 mlynedd

Asesiad

Bydd yna brawf llyfr caeedig gyda marc pasio o 80%

Dilyniant

Cyrsiau Eraill GLLM mewn Iechyd a Diogelwch https://www.gllm.ac.uk/cy/sear...

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Diogelwch

Iechyd a Diogelwch

Dau fyfyriwr yn trafod gwaith ar liniadur